Yn dilyn canllawiau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a chan ddefnyddio gwybodaeth Landmap, mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru at ddibenion y Cynllun Datblygu Lleol datblygol. Ar ddechrau’r prosiect hwn, nodwyd pa dirweddau yn Sir Gaerfyrddin yr ystyrir eu bod o’r pwysigrwydd mwyaf ac sy’n haeddu cael eu gwarchod trwy eu dynodi’n Ardal Tirwedd Arbennig, sef:
Mae’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig arfaethedig wedi cael eu rhoi mewn grwpiau yn ôl y mathau o dirwedd a ddisgrifir isod.
Defnyddio gwybodaeth Landmap
Mae holl siroedd a Pharciau Cenedlaethol Cymru wedi cwblhau asesiadau Landmap. Seiliwyd yr asesiadau ar bum haen o wybodaeth dirweddol a gellir defnyddio’r wybodaeth hon yn y broses o bennu Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r data wedi eu seilio ar fap ac yn cael eu cadw mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol. At ddibenion pennu’r tirweddau a ystyrir yn bwysig yn Sir Gaerfyrddin, mae’r wybodaeth weledol a synhwyraidd yn arbennig o bwysig, ond defnyddiwyd y setiau eraill o ddata hefyd. Er enghraifft, mae’r haen tirwedd hanesyddol hefyd yn nodi bod Mynydd Llanllwni a Drefach Felindre yn dirweddau pwysig. Mae’r haen cynefinoedd tirwedd yn nodi bod y tirweddau arfordirol yn bwysig.
Dyffryn Tywi
Mae’r Ardal Tirwedd Arbennig yn cynnwys y dyffryn afon cyfan heblaw aber afon Tywi, sy’n rhan o Ardal Tirwedd Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin. Mae Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi’n cynnwys llawr y dyffryn a’r llethrau cysylltiedig, ynghyd â nifer o dirweddau gwahanol. Mae dyffryn Tywi uchaf, i’r gogledd o Randir-mwyn, yn gul at ei gilydd, gan godi’n serth ar y naill ochr a’r llall i dirweddau ucheldirol mwy garw Mynydd Mallaen ac Ucheldir y Gogledd Ddwyrain, sydd ill dau’n Ardaloedd Tirwedd Arbennig ar wahân. Nodweddir Dyffryn Tywi Uchaf gan gaeau bach, gwrychoedd, coetir, ffermydd traddodiadol, ffyrdd cul, a’r afon ei hun a choed ar hyd ei glannau’n fynych ond hefyd dolydd agored mewn mannau.
Gan symud i lawr yr afon tuag at Randir-mwyn a Llanymddyfri, mae canol Dyffryn Tywi’n fwy agored, ond mae’r dyffryn yn dal i godi at dir agored y bryniau. Ceir llawer o goed yn y dirwedd gyda nifer arwyddocaol o berthi a choed unigol eraill. Ceir yma fwy o dir amaethyddol gwastad agored, rhai aneddiadau bach – Rhandir-mwyn a Chil-y-cwm, y ddau ag adeiladau traddodiadol a phensaernïaeth gynhenid yn bennaf. Mae’r rhain yn dirweddau gwledig nas difethwyd lle mae’r elfennau’n cydweddu â’i gilydd yn berffaith.
Mae dyffryn Tywi isaf, i lawr yr afon o Lanymddyfri, yn cynnwys y gorlifdir gwastad llydan, ynghyd â’i lethrau gogleddol a deheuol sy’n cynnig golygfeydd godidog dros y dyffryn ac o’r gogledd tuag at Fannau Brycheiniog. Er y ceir yma’n bennaf dir amaethyddol a chaeau mwy o faint na’r rhai yng nghanol y dyffryn a’r dyffryn uchaf, mae gan y gorlifdir nifer sylweddol o goed aeddfed y gwrychoedd a’r caeau, ac mae gan lethrau’r dyffryn, a’r llethrau deheuol mwy serth yn arbennig, lawer o goed. Mae parcdiroedd a chestyll hanesyddol hefyd yn nodwedd yn y rhan hon o’r dyffryn e.e. Gelli Aur a Pharc Dinefwr, a chestyll Dinefwr a Dryslwyn. Mae cestyll y dyffryn mewn lleoliadau mawreddog ar frigiadau calchfaen, yn edrych dros y dyffryn. Mae llawer o’r ffermydd traddodiadol yn y dyffryn wedi ehangu, ac yn aml yn cynnwys adeiladau amaethyddol mawr erbyn hyn. Mae’r rhan fwyaf o aneddiadau’r rhan hon o’r dyffryn wedi tyfu hefyd, gydag elfen o adeiladu modern o amgylch craidd mwy traddodiadol. Mae datblygu amhriodol yn parhau i fygwth cadwraeth y dirwedd arbennig hon, sef y rheswm dros ei dynodi.
Dyffryn Brân (i’r gogledd o Lanymddyfri)
Mae’r Ardal Tirwedd Arbennig yn cynnwys y gorlifdir ac ochr y dyffryn. Mae’r A483(T) a rheilffordd Calon Cymru’n rhedeg ar hyd y dyffryn gan ei wneud yn borth pwysig i Sir Gaerfyrddin. Mae’r dyffryn yn adnabyddus am y golygfeydd o’r sir a geir o’r llwybrau hyn wrth deithio o Bowys. Mae’r rheilffordd yn cynnwys y draphont yng Nghynghordy sy’n nodwedd adnabyddus yn y dirwedd; mae’n weladwy o’r brif ffordd, gan roi naws gref am le. Mae’r brif ffordd yn nodwedd o’r ardal, ac er nad yw’n brysur iawn, ceir llif cyson o draffig ynghyd â’r swn cysylltiedig.
Ni cheir ond ychydig o aneddiadau ar wahân i Gynghordy ac yno mae rhywfaint o barcdir. Mae gweddill y dyffryn yn gymysgedd o dir amaethyddol â pherthi a choed ar y gorlifdir a’r ardaloedd mwy gwastad, a darnau arwyddocaol o goetir ar lethrau’r dyffryn gan greu cydbwysedd deniadol. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o lednentydd coediog i afon Brân.
Dyffryn Llwchwr
Ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin ac Abertawe, mae gan Ddyffryn Llwchwr orlifdir llydan a gwastad gydag ochrau serth yn codi o’r dyffryn. Mae’r gorlifdir yn agored ac fe’i nodweddir gan gaeau mawr afreolaidd a rhai sianelau draenio. Mewn cyferbyniad, mae’r llethrau ar ochr Sir Gaerfyrddin yn cynnal cymysgedd deniadol o goetir a thir amaethyddol, y coetir yn aml yn gysylltiedig â’r cyrsiau dwr sy’n llifo i lawr y llethrau. Mae caeau bach afreolaidd, wedi eu gwahanu gan gymysgedd o berthi sydd wedi gordyfu a pherthi sydd wedi cael eu torri, hefyd yn nodwedd o’r llethrau hyn. Nid oes llawer o fynediad i’r gorlifdir oni bai at ddibenion amaethyddol, nid oes anheddiad ynddo heblaw Pontarddulais i’r de a Rhydaman i’r gogledd. Ffermydd gwasgaredig a geir ar y llethrau. Mae’r rheilffordd yn rhedeg ar hyd y dyffryn (yn Abertawe gan fwyaf), gyda’r trac yn creu llinell gref yn y dirwedd mewn cyferbyniad â’r afon droellog. Mae peilonau’n croesi de’r dyffryn, ond cânt eu cuddio’n rhannol gan y llethrau coediog i’r gorllewin.
Cwm Cathan
Dyffryn afon trawiadol â llethrau serth rhwng ardal ucheldirol Mynydd Betws a thir isel Dyffryn Llwchwr yw Cwm Cathan. Mae’n goediog iawn gyda choetir llydanddail lled-naturiol – gan gynnwys darn o goetir bedw, yn ogystal â glaswelltiroedd wedi’u lled-wella a darnau o brysgwydd a rhedyn. Mae amrywiaeth y llystyfiant yn rhoi ansawdd i’r dirwedd ac yn creu rhwydwaith o gynefinoedd lled-naturiol ledled yr ardal. Mae rhai o’r gwrychoedd yn tyfu’n llinellau o goed sydd hefyd yn cyfrannu at olwg caeedig a choediog yr ardal. Mae gwrychoedd â llawer o gelyn yn nodwedd. Dyma dirwedd gartrefol, gaeedig, naturiol nas difethwyd a chanddi olygfeydd o’r ardaloedd cyfagos. Gyda ffyrdd cul troellog ac anheddau gwasgarog, mae’r ardal dawel hon yn teimlo’n eithaf pell o Rydaman.
Dyffryn Teifi
Mae tarddiad afon Teifi yng Ngheredigion, ac mae cwrs canol yr afon yn llifo ar hyd ffin Sir Gaerfyrddin rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llechryd. Cydnabyddir bod Dyffryn Teifi yn Ardal Tirwedd Arbennig yng Ngheredigion hefyd. Mae darn Sir Gaerfyrddin o afon Teifi’n llifo trwy ddyffryn â llawer o goed. Mae’r gorlifdir yn lledaenu wrth i’r afon lifo i’r gorllewin. Mae’r dyffryn yn union i’r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan wedi’i nodi oherwydd nifer y coed mewn gwrychoedd a’r coed cae sydd ynddo, er bod llai o goetir yn y rhan hon o’r dyffryn nag ymhellach i lawr yr afon.
Wrth iddi lifo trwy Faesycrugiau, mae’r afon yn mynd yn gul iawn ac yn debyg i geunant. Mae’r dirwedd yma dan drem yr afon a’i dyffryn ac mae’r ardal yn teimlo’n ddiarffordd. Mae’r rhan hon o’r dyffryn yn goediog iawn. Nid oes llawer o ddatblygiadau newydd yn y rhan hon o’r dyffryn. Y mathau o anheddiad a geir yn bennaf yw ffermydd bach a thai traddodiadol, gan gynnwys bythynnod ar ochr y ffordd.
Nodweddir Dyffryn Teifi rhwng Maesycrugiau a Llechryd gan gydbwysedd arbennig o ddeniadol rhwng coetir (llydanddail yn bennaf ac ychydig o goetir conwydd) a chaeau agored, yn y gorlifdir yn benodol, gyda choed aeddfed. Mae’r afon yn weladwy’n aml ynghyd â’r ffyrdd sy’n rhedeg ar naill ochr yr afon a’r llall, sy’n rhoi i’r ardal ymdeimlad o symud i’r ddau gyfeiriad. Mae’r golygfeydd yn gyfyngedig i lawr y dyffryn a’i lethrau, felly ceir ymdeimlad o fod yn y dyffryn bob amser. Mae datblygiadau’n cynnwys ffermydd gwasgaredig, rhai aneddiadau bach ar hyd y ffyrdd a’r aneddiadau mwy o faint sef Castell Newydd Emlyn a Phentre-cwrt.
Dyffryn Cothi
Gellir disgrifio Dyffryn Cothi mewn pedair rhan.
Wrth i afon Cothi lifo rhwng Ardaloedd Tirwedd Arbennig Mynydd Mallaen ac Ucheldir y Gogledd Ddwyrain mae gan y dyffryn nodweddion yr ucheldir. Mae’r llethrau’n codi o 160m hyd at ychydig dros 400m ar Fynydd Mallaen. Ceir llawer o goed ar ochrau’r dyffryn, gyda chymysgedd deniadol a chytbwys o goed llydanddail a rhai conwydd, yn ogystal â thir pori caeedig ac agored, a ffridd. Lle ceir terfynau caeau, maent yn dueddol o fod yn eithaf gwan, am fod rhai o linellau’r gwrychoedd wedi troi’n llinellau o goed. Nid yw ffensys yn anghyffredin lle mae’r gwrychoedd wedi diflannu. Mewn cyferbyniad, mae’r ffermio ar lawr y dyffryn yn fwy dwys, gyda golygfeydd o’r afon gyflym i’w gweld yn aml ledled yr ardal. Mae’r ffermydd ar waelod llethrau serth y dyffryn fel arfer, ar doriad y llethr. Tuag at Bumsaint, cymeriad ystâd sydd i’r dirwedd ac mae hynny i’w weld yn arddull rhai o’r adeiladau. Mae’r ffordd yn gul, y ffermydd yn wasgaredig ac arddull gynhenid yn bennaf sydd i ddyluniad yr adeiladau. Ychydig iawn o ddatblygiadau newydd a geir yn yr ardal.
Mae Basn Llansawel yn cynnwys cydlifiad Cothi â nifer o afonydd eraill - Marlais, Melinddwr a Thwrch. Mae dyffrynnoedd cul yr ucheldir yn yr ardal gyfagos yn agor yn y darn hwn yn fasn afon llawer mwy o faint gan greu tirwedd iseldir mwy agored o lawer. Mae traethellau’n nodwedd o’r rhan hon. Mae’r ardal yn cyfuno tir bryniog gyda thir mwy gwastad ar lawr y dyffryn, sy’n dir amaethyddol wedi’i wella gan fwyaf, gydag ychydig o goetir. Mae’r gwrychoedd a choed y gwrychoedd yn creu’r argraff bod gorchudd coed sylweddol. Yng ngwesty Glanrannell ceir rhai elfennau tirwedd parcdir a gynlluniwyd. Llansawel yw’r anheddiad mwyaf a cheir nifer o ffermydd gwasgaredig.
Rhwng Edwinsford a Brechfa, mae Dyffryn Cothi’n goediog iawn, ac i lawr yr afon o Abergorlech mae’n llifo trwy Goedwig Brechfa. Mae’r rhan hon o’r dyffryn yn fwy caeedig na Basn Llansawel. Nodweddir y porfeydd isel yma gan berthi datblygedig, a choed cae a choed gwrychoedd. Ni cheir ond ychydig o olygfeydd o’r afon gan fod coed yn tyfu ar hyd y glannau mewn llawer man. Mae’r ffordd B yn mynd trwy’r ardal ac yn pasio trwy aneddiadau bach Abergorlech a Brechfa.
I lawr yr afon o Frechfa, mae’r dyffryn yn fwy cul ac yn fwy o siâp V na’r afon uwchlaw’r pentref – yn debycach i afon ucheldirol. Ymddengys bod afon Cothi wedi newid ei chwrs, a’i bod gynt yn dilyn dyffryn Gwili i’r gorllewin o Frechfa. I’r de o Frechfa, mae’r dyffryn rhychog yn codi’n serth at y bryniau ar y naill ochr a’r llall. Mae llethrau’r dyffryn yn gymysgedd o redyn, coetir, coetir newydd ei blannu a thir amaethyddol. Ceir golygfeydd o’r afon mewn nifer o fannau ar hyd y dyffryn, yn enwedig lle mae’r ffordd a’r llwybr troed yn mynd yn agos ati. Tir amaethyddol a choetir yw’r tir isel yn bennaf. Mae’r ardal hon yn gyferbyniad clir â chanol dyffryn Cothi i’r gogledd, sy’n fwy agored, a Basn Llansawel a Dyffryn Tywi i’r de, gan fod yr afon yn debycach i geunant a llethrau’r dyffryn yn fwy serth. Anheddau gwasgaredig sef nifer fach o ffermydd a geir yn y rhan hon o’r dyffryn. Mae cwrs yr afon yn amrywio, ac mae’n cynnwys darnau agored a bas yn ogystal â thoriadau trwy greigiau tywyll. Mae coed yn tyfu ar hyd y rhan fwyaf o lannau’r afon yma.
Dyffryn Taf Isaf
Mae’r Ardal Tirwedd Arbennig yn cynnwys dyffryn yr afon o’r groesfan reilffordd i’r dwyrain o Hendy-gwyn at yr aber, hynny yw rhannau isaf afon Taf. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn ddiarffordd, ac nid oes llawer o fynediad iddi. Mae’r aneddiadau wedi’u cyfyngu i ochrau’r dyffryn. Mae ymdeimlad o wacter yn y dyffryn, er ei fod mor agos i’r prif ffyrdd. Mae llawer o goed yn tyfu ar ochrau’r dyffryn ar hyd y rhan hon o’r afon, sy’n cyfrannu at ei nodweddion golygfaol. I lawr yr afon o’r A477 mae’r afon yn llanwol, ac mae’n mynd i’r aber yn ymyl yr A4066, lle ceir llai o goed ar y llethrau. Mae’r dirwedd yn fwy agored a nodweddion aber yn hytrach na dyffryn aber sydd iddi, gyda gwastadeddau llaid morfa heli. Mae’r Ardal Tirwedd Arbennig hon yn ffinio ag Ardal Tirwedd Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin.
Drefach Felindre
Mae haen weledol a synhwyraidd a haen amgylchedd hanesyddol system LANDMAP yn cydnabod tirwedd yr ardal hon a’i nodweddion unigryw. Ceir yma rwydwaith o gymoedd serth coediog, gydag aneddiadau llinellol ag arddull gynhenid ddigamsyniol – bythynnod teras bach ar ochr y ffordd fel arfer, wedi eu hadeiladu o garreg o chwareli lleol, ynghyd â melinau a chapeli mwy ar ochr yr afon, sy’n adlewyrchu’r diwydiant gwlân a fu’n ffynnu yma (ac mewn rhannau o Ddyffryn Teifi) yn ystod y 19fed ganrif ac yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Mae ffyrdd cul yn mynd ar hyd pob un o’r cymoedd hyn. Mae gan yr ardal naws gaeedig, gysgodol ac ynghudd; mae ei chymeriad yn unigryw yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r caeau amaethyddol fel arfer yn fach ac wedi eu hamgylchynu gan goetir.
Swiss Valley
Mae tirwedd Swiss Valley yn gymysgedd deniadol o goetir a dwr. Ymdeimlad naturiol sydd i’r cronfeydd dwr ac maent yn cynnal amrywiaeth o lystyfiant dyfrol. Mae’r ardal yn cynnig rhyngwyneb deniadol rhwng coetir a dwr. Mae Swiss Valley yn hygyrch iawn ar droed neu ar feic o Lanelli a chaiff ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ond gydag ychydig iawn o seilwaith (mae hyn yn cynnwys llwybr beiciau). Ceir golygfeydd deniadol iawn dros y dwr ac ar hyd yr afon. Naws gaeedig sydd i’r dyffryn, a theimla’n bell i ffwrdd o’r tirweddau prysurach o’i gwmpas. Mae coetir Swiss Valley yn llydanddail gan fwyaf. Mae’r dyffryn yn heddychlon a heb ei ddifetha. Er nad oes anheddiad yn y dyffryn, mae ffermydd yn y wlad gyfagos yn edrych i lawr arno.
Talyllychau
Mae gan ran hanesyddol pentref Talyllychau, gyda’r abaty yn ei chanol, leoliad deniadol ar lan llyn sy’n unigryw yn y sir. Mae ganddo gefndir deniadol o lethrau eithaf serth a ddefnyddir naill ai ar gyfer amaethyddiaeth neu goedwigaeth. Mae’r Ardal Tirwedd Arbennig yn cynnwys yr abaty, yr eglwys a’r anheddau cyfagos, y llynnoedd a’r tir sydd o amgylch y nodweddion hyn ac yn rhoi lleoliad iddynt. Mae’r ddau lyn cysylltiedig yn nodwedd anarferol ac maent yn adnabyddus ledled y sir. Nid oes ond ychydig iawn o lynnoedd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddau lyn wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cynefinoedd dyfrol a’r rhywogaethau a gynhelir ganddynt. Mae’r ffordd B yn mynd trwy ran fwy modern y pentref a gellir clywed y traffig arni’n amlach na pheidio.
Gwastadeddau Gwendraeth
Dolydd pori tir isel y gorlifdir ar hen dir cors yw’r rhain, sy’n gorlifo’n aml yn ystod misoedd y gaeaf. Er bod yr ardal yn gymharol wlyb, caiff ei rheoli o hyd at ddibenion amaethyddol. Mae’r caeau unionlinellog wedi eu rhannu gan berthi llydan tal a ffosydd draenio. Mewn mannau, mae’r perthi tal yn creu ymdeimlad o dir caeedig; mewn mannau eraill, mae’r tirweddau fel arfer yn ymddangos yn agored a digysgod iawn (e.e. Gwastadeddau Gwent). Ni cheir ond ychydig o anheddau a ffyrdd heblaw’r brif ffordd ac mae’r ffyrdd a geir yn dueddol o fod yn syth. Yn ogystal â’r tir amaethyddol, mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptirol, pyllau a ffeniau sy’n rhoi golwg mwy naturiol i’r ardal, a’r gallu i gynnal bywyd gwyllt. I raddau helaeth yn ardal nas difethwyd, mae’n wledig ei chymeriad o hyd. Mae dimensiwn hanesyddol pwysig i’r dirwedd hon gan y cafodd ei chreu o ganlyniad i ddraenio gwlyptiroedd ac adeiladu amddiffynfeydd môr i ddal dwr y môr yn ôl; gwaith a ddechreuodd yn 1609 ac a aeth ymlaen hyd ganol y 19eg ganrif gan amgáu caeau. Mae Ardal Tirwedd Arbennig Gwastadeddau Gwendraeth yn ffinio ag Ardal Tirwedd Arbennig Mynydd Pen-bre, ac mae’r ardal hon yn cynnig cefndir pwysig nas difethwyd i’r gwastadeddau.
Ucheldir y Gogledd Ddwyrain
Darn helaeth o ucheldir tonnog a nodweddir gan dir pori agored a rhai darnau mawr o goedwigaeth conwydd, a ystyrir yn rhan annatod o’r dirwedd hon. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys darnau bach o dir amgaeedig wedi’i wella ger y ffermydd anghysbell, ond mae’r rhan fwyaf o’r tir yn agored. Mae’r cymysgedd o gynefinoedd a gorchudd llystyfiant ar y darnau agored hyn yn rhoi ansawdd yn y dirwedd, ac yn cynnwys glaswelltiroedd corsiog, llystyfiant gwlyptirol yn y dyffrynnoedd afon bas, rhedyn ar y tir mwy serth, rhywfaint o gynefin ffridd, rhai darnau bach o gynefin rhostir ac ati. Ceir creigiau brig bach ledled yr ardal, sy’n ychwanegu mwy o amrywiaeth. Ceir ychydig o goed llydanddail, yn amlach yn y dyffrynnoedd afon bas. Mae’r gwahanol elfennau hyn yn ychwanegu amrywiaeth i’r ardal. Dim ond ychydig o ffyrdd bach a thraciau fferm sydd yn yr ardal, a phrin unrhyw anheddiad o gwbl. Mae’n teimlo fel ardal brin ei phoblogaeth. I’r gogledd o Ffarmers, mae ardaloedd lle mae rhai o derfynau’r caeau’n waliau cerrig, sy’n anarferol yn Sir Gaerfyrddin. Ychydig o ddatblygiadau newydd sydd yma, ar wahân i ysguboriau amaethyddol newydd. Ceir golygfeydd eang yn yr ardal ac i’r dyffrynnoedd cyfagos; ceir golygfeydd pellach i Fannau Brycheiniog hefyd. Mae’r ardal yn teimlo’n anghysbell, yn ddigysgod ac yn uchel, a heb lawer o bobl. Ar ffin y sir, mae Llyn Brianne’n rhan o’r Ardal Tirwedd Arbennig hon.
Mynydd Mallaen
Darn digysgod o lwyfandir ucheldirol agored a ddefnyddir fel porfa yw Mynydd Mallaen. Ceir yno gymunedau planhigion y rhostir a’r gwlyptir yn bennaf, gyda llus, grug a brithwaith rhos wleb. Mae’r tir yn disgyn o’r llwyfandir i’r dyffrynnoedd cyfagos trwy gynefinoedd ffridd, glaswelltir, sgri creigiog mewn mannau a choetir. Mae’r ardal yn dir comin â mynediad agored. Mae un neu ddwy garn ar y llwyfandir; fel arall mae’n creu nenlinell gwbl wastad bron. Ceir traciau ar draws yr ardal. Nid oes yma unrhyw goed na therfynau caeau, ond nifer o greigiau brig a phantiau gwlyb. Mae’r ardal yn cynnig golygfeydd eang i bob cyfeiriad, ac mae’n teimlo’n ddigysgod, gwyllt, gwag ac anghysbell dros ben.
Mynydd Llanllwni
Mae Mynydd Llanllwni yn ddarn o rostir grug agored a saif ar lwyfandir tonnog ar hyd y cefndeuddwr rhwng dyffrynnoedd Teifi a Chothi. Gwelir tomenni claddu o’r Oes Efydd ar y brif grib, sy’n rhoi naws o’n heffaith ar y dirwedd hon ar hyd y milenia. Ceir golygfeydd eang i bob cyfeiriad o’r llwyfandir; y golygfeydd mwyaf nodedig yw’r rhai i’r gogledd orllewin dros ddyffryn Teifi ac i’r de ddwyrain tuag at Fannau Brycheiniog. Mae’r ardal yn dir comin â mynediad agored, a chaiff ei bori gan ddefaid a merlod, a’i losgi’n rheolaidd. Anaml y defnyddir y ffyrdd sy’n croesi’r ardal, ac er eu bod yn cynnig mynediad hawdd i’r mynydd, mae’r ardal yn teimlo’n ddigysgod, gwyllt a gwag. Mae’r ffermydd sy’n ffinio â’r mynydd wedi’u lleoli islaw ar y tir caeedig. Mae’n un o’r ychydig ardaloedd yn y sir sydd heb anheddiad o unrhyw fath.
Cefn Calchfaen Sir Gaerfyrddin
Y cefn tonnog hwn (sy’n cyrraedd 280m uwchben datwm ordnans) o ucheldir digysgod uwch yw’r unig ddarn helaeth o galchfaen yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan y cefn dirwedd unigryw ac amrywiol, sy’n cynnwys tir comin agored e.e. Mynydd Llangyndeyrn a Mynydd y Garreg, â rhedyn a grug a datgeliadau craig, y chwareli calchfaen yng Nghrwbin a Chilyrychen, a darnau helaeth o gaeau bach, gwrychoedd aeddfed a choetir e.e. Carmel (sy’n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Carmel). Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn rhan o’r cefn. Mae’r cefn yn cynnig golygfeydd dros y dyffrynnoedd cyfagos a rhannau helaeth o dde Sir Gaerfyrddin. Mae nifer o ffyrdd yn ei groesi, a’r A48(T) yw’r brysuraf ohonynt, ond mae’r cefn yn dawel iawn mewn mannau hefyd. e.e. Mynydd Cerrig. Mae’r aneddiadau’n cynnwys ffermydd gwasgaredig ac aneddiadau llinellol sydd yn aml yn gysylltiedig â’r chwareli, ac adlewyrchir hyn yn y bensaernïaeth gynhenid.
Mynydd Pen-bre
Mae Mynydd Pen-bre’n codi’n serth o Wastadeddau Gwendraeth, gan greu cefndir pwysig i’r ardal hon a dyna’r rheswm dros ei chydnabod yn Ardal Tirwedd Arbennig. Mae’r llethrau’n goediog gan fwyaf erbyn hyn, gyda chymysgedd o goed llydanddail a chonwydd, ac o’r cefn (100m uwchben datwm ordnans) ceir golygfeydd eang dros y gwastadeddau a Bae Caerfyrddin tuag at Ynys Bur. Pan oedd y môr yn gorchuddio mwy o dir Gwastadeddau Gwendraeth, llethrau Mynydd Pen-bre oedd y clogwyni arfordirol. Mae gan y mynydd archeoleg gyfoethog ac amrywiol, sy’n cynnwys bryngaerau o’r Oes Haearn, crugiau posibl o’r Oes Efydd a thystiolaeth o batrwm cefnen a rhych y Canol Oesoedd yn ogystal â’r chwareli a’r pyllau glo.
Mynydd y Betws
Mae hon yn ardal helaeth o rostir digysgod tonnog yr ucheldir sy’n ymestyn at Abertawe. Mae’n ddarn o dir comin agored a ddefnyddir fel porfa, gyda chymysgedd o laswelltau a darnau llai o rug, a chynefinoedd gwlyptirol. Ceir golygfeydd trawiadol o Fynydd y Betws dros dde ddwyrain Sir Gaerfyrddin a thuag at Fannau Brycheiniog. Mae’r ffordd sy’n croesi’r mynydd yn torri ar yr ardal, fel y mae’r polion telegraff, peilonau mwy a mast lle mae’r ffordd yn cyrraedd ochr ogleddol y comin ger tafarn y Scotch Pine. Mae’r elfennau hyn yn tynnu oddi ar gyfanrwydd yr ardal, ond maent yn gyfyngedig i’r darn bach hwn o’r ardal gyfan. Ceir undod sylweddol mewn rhannau eraill o’r ardal ac nid oes llawer o ddim byd yn torri ar weddill y dirwedd hon. Mae’n un o bum ardal helaeth o rostir agored yn y sir. Nid oes coed na llwyni yn yr ardal ac mae gwahaniaeth trawiadol rhwng yr ardal hon a’r tir caeedig ar godiadau is y llethrau gogleddol. Nid oes aneddiadau yma mwyach, ond mae archeoleg gyfoethog i’r ardal, gyda nifer o safleoedd i’w gweld yn glir ar y tir, gan ddangos hanes yr ardal hon.
Mae nifer o dirweddau ar wahân yn yr Ardal Tirwedd Arbennig hon, a dylid eu hystyried yn gontinwwm. Mae’r Ardal yn amgylchynu Bae Caerfyrddin ac mae’n cynnwys:
Bryniau Arfordirol: Marros – Pentywyn, Llan-y-bri, Llan-saint a bryniau arfordirol Pen-bre
Llethrau Arfordirol: Marros hyd Wharley Point a llethrau arfordirol Llanismel
Llethrau Aberol: y llethrau uwchben yr aberoedd h.y. y llethrau ar y naill ochr a’r llall i afonydd Taf a Thywi yn yr aber.
Aberoedd afonydd: sianelau’r afonydd a’r gwastadeddau llaid cysylltiedig adeg distyll
Corsydd pori arfordirol: Cors y Gorllewin, Cors y Dwyrain i’r de o Lacharn, i’r de o Gydweli
Traethau tywodlyd: Marros, Pentywyn a Chefn Sidan
Twyni tywod: Pentywyn a rhan o Gefn Sidan
Morfa heli: ceir nifer o ddarnau o forfa heli yn yr aberoedd ac yn agos i’r arfordir e.e. Halwyndir Pen-bre
Aneddiadau: Pentywyn, Lacharn, Llansteffan a Glanyfferi
Mae Ardal Tirwedd Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin yn cynnwys yr holl dirweddau sy’n cyfrannu at ein tirweddau arfordirol ac aberol. Yn aml, cyfosod un dirwedd gydag un arall fel morfa heli a’r afon, neu lethr goediog yr aber a sianel yr afon sydd, gyda’i gilydd, yn creu tirwedd ag ansawdd golygfaol da.
Mae’r bryniau arfordirol yn rhoi cefndir i’r bae a’r aberoedd, a cheir golygfeydd braf dros y môr ohonynt. O fod yn agos i’r arfordir ac yn dir uchel, mae’r bryniau’n ddigysgod, ac mae’r coed sy’n grwm oherwydd y gwynt yn dangos hynny.
Fel arfer nodweddir y llethrau arfordirol gan dir anamaethyddol garw â rhedyn a phrysgwydd, eto yn aml wedi eu siapio gan y gwynt. Mae’r llethrau’n ddigysgod, ac yn wynebu’r môr fel arfer. Maent wedi eu lleoli rhwng y bryniau a’r traethau neu gorsydd is.
Y llethrau aberol yw’r llethrau mwy cysgodol rhwng y bryniau ac aberoedd yr afonydd. Yn aber afon Tywi, tueddant i fod yn arbennig o goediog, ond maent hefyd yn cynnwys rhywfaint o dir amaethyddol.
Mae aberoedd yr afonydd yn cynnwys sianelau’r afonydd. Mae’r rhain yn llanwol ac yn cynnwys gwastadeddau llaid adeg y distyll.
Corsydd y Gorllewin a’r Dwyrain yw’r darnau mwyaf o gorsydd pori arfordirol yn Sir Gaerfyrddin. Datblygwyd Cors y Gorllewin at ddibenion milwrol ac felly mae rhywfaint o darfu arni, ac mae prysgwydd wedi tyfu arni o ganlyniad i’r tir yn sychu. Caiff Cors y Dwyrain ei rheoli mewn ffordd draddodiadol o hyd ar gyfer pori, ond mae hefyd wedi bod yn destun rhywfaint o ddatblygu. Mae’n fwy agored, digysgod a gwag na Chors y Gorllewin. Mae’r tirweddau hyn yn agored, digysgod a gwag ac yn bwysig o ran y fioamrywiaeth a gynhelir ganddynt. Maent hefyd o ddiddordeb hanesyddol oherwydd nid oedd yr ardaloedd hyn yn bodoli hyd nes bod modd draenio tir.
Mae’r tri thraeth ymysg yr hiraf yng Nghymru. Mae Pentywyn a Chefn Sidan yn gyrchfannau gwyliau adnabyddus. Pan fydd y llanw allan, ceir darnau helaeth o dywod a golygfeydd allan i’r môr ac ar hyd yr arfordir.
Mae’r twyni tywod yn ffinio â’r traethau ac mae eu tirwedd yn nodweddiadol o unrhyw system twyni. Gwneir ymdrech i reoli rhafnwydd y môr sydd wedi bod yn lledu yn system twyni Cefn Sidan.
Mae’r morfa heli’n rhan annatod ac amlwg o’r aber a’r dirwedd arfordirol, ac yn un sy’n cynnig amddiffynfa naturiol, am ddim, rhag y môr. Mae’r morfa heli fel arfer yn ffinio â gwastadeddau llaid a ddatgelir adeg distyll. Mae’r morfeydd heli yn aml wedi’u croesi gan fornentydd lleidiog ac yn cynnal planhigion sy’n gallu goddef yr amodau hallt. Y rhain yw dwy o nodweddion y morfa heli sy’n rhoi hynodrwydd i’r dirwedd hon. Mae morfeydd heli yn fannau agored a gwyntog, heb gysgod.
Mae gan y tri anheddiad yn yr Ardal Tirwedd Arbennig – Lacharn, Llansteffan a Glanyfferi – gymeriad gwahanol. Glanyfferi yw’r unig anheddiad ar y rheilffordd, sydd ynddo’i hun yn nodwedd o aber afon Tywi. Lacharn yw’r anheddiad mwyaf trefol o’r tri, a datblygodd o amgylch ei gastell, tra bo’r castell yn Llansteffan mewn safle uwchben y pentref.