Bernir bod digon o bolisïau a chynigion yn y CDLl hwn i roi’r sail i benderfynu ar geisiadau cynllunio ynghyd ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y caniatadau hynny (Cynlluniau Datblygu Lleol: Cymru – Paragraff 5.1). Lle bo’n angenrheidiol ac yn briodol, bydd y Cyngor yn defnyddio’r Canllawiau i nodi canllawiau safle benodol neu thematig mwy manwl ar sut y caiff polisïau’r CDLl eu rhoi ar waith. Er nad ydynt yn rhan o’r cynllun datblygu, bydd Canllawiau Cynllunio Atodol o’r fath yn gyson â’r CDLl. Er gwybodaeth, gall y Canllawiau gynnwys canllawiau ar amrywiaeth o bynciau penodol a gellir eu paratoi ar nifer o wahanol ffurfiau, o ganllawiau safle benodol, canllawiau dylunio ac ati hyd at ddatganiadau polisi manwl.
Pan fo Canllawiau Cynllunio Atodol i gael eu paratoi, byddant yn destun ymgynghoriad ffurfiol cyn cael eu mabwysiadu. Bydd datganiad ymgynghori a manylion sylwadau a gafwyd yn cael eu cyhoeddi gyda’r Canllawiau a gymeradwywyd.
Mae’r canlynol yn nodi’r ymrwymiadau i’r Canllawiau Cynllunio Atodol a nodwyd yn y CDLl Adneuo hwn. Mae hefyd yn rhoi amserlen ddangosol ar gyfer eu paratoi. Lle bo’n briodol, caiff yr amserlen ei hadolygu yn sgil newid mewn blaenoriaeth, gofyniad i’w pharatoi yn gynt ac i adlewyrchu materion ac ystyriaethau a ddaw i’r amlwg. Hefyd gellir canfod gofynion ychwanegol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol ar ben yr hyn a geir yn y rhestr isod yn ystod cyfnod y cynllun.
Canllawiau Cynllunio Atodol | Dyddiad Dangosol i’w Cynhyrchu |
---|---|
Tai Fforddiadwy | Mabwysiadwyd |
Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr | Mabwysiadwyd |
Iaith Gymraeg | Mabwysiadwyd |
Rhwymedigaethau Cynllunio | Mabwysiadwyd |
Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau mewn Ardaloedd Gwledig ar gyfer Datblygiadau Preswyl | Mabwysiadwyd |
Dylunio | Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu |
SDCau | Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu |
Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws | Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu |
Canllawiau dylunio tirwedd ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig | Cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu |
Archeoleg | Cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu |
Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol | Cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu |
Menter Wledig | Cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu |
Bioamrywiaeth (gan gynnwys Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur) | Cyn pen 12 mis ar ôl mabwysiadu (caiff ei fonitro’n gyson gan ystyried dynodiadau parhaus) |
Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol | Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu |
Coed, Tirweddu a Datblygu | Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu |
Gofynion Mannau Agored ar gyfer Datblygiadau Newydd | Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu |
Briffiau Datblygu Safle Benodol | Parhaus |
Tabl 13 – Canllawiau Cynllunio Atodo