Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd | Dogfen y mae’n ofynnol ei pharatoi fel rhan o’r broses o arfarnu cynaliadwyedd i ddisgrifio ac arfarnu’r effeithiau sylweddol tebygol ar gynaliadwyedd o weithredu’r CDLl, sydd hefyd yn bodloni’r gofyniad am yr Adroddiad Amgylcheddol o dan Reoliadau’r Asesiad Amgylcheddol Strategol. O dan adran 62(6) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi adroddiad o ganfyddiadau Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl. Caiff Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ei gynhyrchu’n gyntaf yn ystod cam y Strategaeth a Ffefrir (a elwir yn Adroddiad Interim yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yng nghynlluniau datblygu lleol Cymru), yna ymhelaethir arno yn ystod cam y Cynllun Adneuo a chaiff y fersiwn terfynol ei gynhyrchu ochr yn ochr â’r Datganiad Mabwysiadu. |
Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd | Term a ddefnyddir yn CDLl Cymru i gyfeirio at Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, a gynhyrchir yn ystod cam y Strategaeth a Ffefrir. Mae’r adroddiad yn asesu dewisiadau’r CDLl yn erbyn fframwaith yr Arfarniad o Gynaliadwyedd. |
Adroddiad Monitro Blynyddol | Bydd yr adroddiad yn asesu i ba raddau y mae polisïau yn y CDLl yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus (Rheoliad 37 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005. |
Angen Lleol | Fe’i diffinnir fel preswylwyr (a’u dibynyddion) ardal y cyngor cymuned / tref neu ardal y cyngor cymuned / tref cyffiniol. Bydd y preswylwyr presennol y mae eu hamgylchiadau’n ymwneud â llety sydd o dan y safon neu’n anfoddhaol neu lle maent yn ffurfio teulu newydd neu’n gadael cartref y rhieni am y tro cyntaf yn cael eu hystyried fel y bydd y rheiny sy’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at fywiogrwydd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ardal y cyngor cymuned / tref. Bydd y diffiniad hefyd yn gymwys i’r rhai â chysylltiad hir ag ardal y cyngor cymuned / tref gan gynnwys cyfnod sefydlog o breswylio yno yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf. Gall y rhai sydd ag angen swyddogaethol profedig i fyw yn agos i’w lle gwaith neu’n agos i berthynas oherwydd angen hanfodol ar sail oed neu wendid hefyd gael eu barnu’n gymwys i’w hystyried. |
Amcan/ Amcan Strategol | Datganiad o’r hyn a fwriedir, gan nodi i ba gyfeiriad y dymunir newid o ran tueddiadau. |
Amwynder | Elfen neu elfennau cadarnhaol sy’n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ardal, neu fwynhad ohoni. Er enghraifft, tir agored, coed, adeiladau hanesyddol a’r cydberthynas rhyngddynt, neu ffactorau llai diriaethol fel llonyddwch. |
Ardal Cadwraeth Arbennig | Safleoedd o bwysigrwydd cadwraethol rhyngwladol a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt. Hefyd mae yna ymgeiswyr Ardal Cadwraeth Arbennig, y dylid eu hystyried, o dan bolisi’r Llywodraeth, yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig llawn wrth ymchwilio i effeithiau defnydd tir. |
Ardaloedd Cadwraeth | Ardal a ddynodir gan yr awdurdod cynllunio lleol, o dan Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, â chymeriad neu olwg y mae’n ddymunol ei gadw neu ei wella |
Ardal Gwarchodaeth Arbennig | Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer Adar Gwyllt o dan Gyfarwyddeb y Cyngor Ewropeaidd ar Warchod Adar Gwyllt (79/4C9/EEC) yn darparu ar gyfer gwarchod a rheoli’r holl rywogaethau adar gwyllt sy’n bodoli’n naturiol. |
Arfarniad o Gynaliadwyedd | Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau a chynigion i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). O dan Adran 62(6) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal Arfarnaid o Gynaliadwyedd y CDLl. Mae’r math hwn o arfarniad yn ymgorffori’n llawn ofynion Cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Bydd y term a ddefnyddir yn y CDLl yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, oni bai y’i nodir yn glir fel arall. |
Asesiad Amgylcheddol Strategol | Term generig a ddefnyddir yn rhyngwladol i ddisgrifio asesiad amgylcheddol fel y’i cymhwysir at bolisïau, cynlluniau a rhaglenni. O dan Reoliadau’r Asesiad Amgylcheddol Strategol, mae’n ofynnol cynnal “asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rhai ym maes cynllunio a defnydd tir”. |
Atodol | Lle bo’r defnydd o’r tir neu’r adeiladau’n wahanol i’r prif ddefnydd ac yn llai pwysig ac yn cael ei ganiatáu oherwydd ei gysylltiad â’r prif ddefnydd. |
Awdurdod Cynllunio Lleol | Awdurdod cynllunio sy’n gyfrifol am baratoi CDLl h.y. Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol. |
Bioamrywiaeth | Yr amrywiadau ymysg organebau byw o bob ffynhonnell, gan gynnwys anifeiliaid, planhigion, adar, pryfed a physgod, a’r cynefinoedd maent yn rhan ohonynt. |
Brîff Datblygu | Caiff briffiau eu paratoi fel arfer i ddarparu canllawiau manwl sy’n nodi gofynion yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygu safleoedd penodol, fel arfer lle mae materion cymhleth i’w datrys neu lle mae’r safleoedd o natur strategol. Pan fyddant yn cael eu paratoi fel Canllawiau Cynllunio Atodol, byddant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac felly bydd iddynt statws tebyg. |
Cadernid | Ystyriaethau o ran gweithdrefn, cysondeb, cydlyniad ac effeithiolrwydd y caiff y CDLl ei archwilio yn eu herbyn gan arolygydd cynllunio annibynnol. |
Cam cyn-adneuo | Yn Llawlyfr y CDLl, cyfeirir ato fel cam Dewisiadau Strategol a Strategaeth a Ffefrir y broses o baratoi’r Cynllun. |
Caniatâd Cynllunio | Cymeradwyaeth ffurfiol a geisir gan y cyngor, a roddir gydag amodau yn aml, yn caniatáu i ddatblygiad arfaethedig fynd yn ei flaen. Gellir ceisio caniatâd mewn egwyddor trwy geisiadau cynllunio amlinellol, neu ganiatâd manwl trwy geisiadau cynllunio llawn. |
Canllawiau Cynllunio Atodol | Gwybodaeth atodol mewn perthynas â’r polisïau mewn CDLl. Nid ydynt yn rhan o’r cynllun datblygu ac ni chânt eu harchwilio’n annibynnol ond mae’n rhaid iddynt fod yn gyson â’r cynllun a chyda pholisi cynllunio cenedlaethol. |
Capasiti Amgylcheddol | Mae’r capasiti amgylcheddol yn cyfeirio at ‘maint y datblygiad y gall yr amgylchedd ei gynnal’. Wrth ddiffinio’r term hwn, cyfeirir at ‘fyw o fewn terfynau amgylcheddol’ fel y cyfeirir ato mewn polisïau cenedlaethol, trwy sicrhau na chaiff adnoddau eu disbyddu’n anadferadwy ac na chaiff yr amgylchedd ei niweidio’n anwrthdroadwy. |
CDLl Adneuo | Cam ffurfiol ym mhroses llunio’r cynllun pan ellir cyflwyno sylwadau ar ei gynnwys. |
Cefn Gwlad Agored | Unrhyw ardal y tu hwnt i derfynau datblygu anheddiad diffiniedig. |
Corff Ymgynghori Amgylcheddol | Awdurdod â chyfrifoldebau amgylcheddol sy’n ymwneud ag effeithiau rhoi cynlluniau a rhaglenni ar waith, ac y mae’n rhaid ymgynghori ag ef o dan Reoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol h.y. Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw. |
Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd | Y broses o benderfynu ar gwmpas a lefel manylder yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, gan gynnwys yr effeithiau a’r dewisiadau o ran cynaliadwyedd y mae angen eu hystyried, y dulliau asesu i’w defnyddio, a strwythur a chynnwys adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol. |
Cwrtil | Y darn o dir sydd fel arfer y tu mewn i derfynau eiddo sy’n amgylchynu’r prif adeilad ac a ddefnyddir mewn cysylltiad ag ef. |
Cyflawniadau | Caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau sydd wedi’u hadeiladu neu wedi eu rhoi ar waith. |
Cyfuniad | Cyfuno neu gysylltu dau anheddiad ar wahân neu wahanol elfennau anheddiad. Canlyniad annymunol posibl yw colli hunaniaeth a chymeriad diwylliannol a ffisegol. |
Cymeriad | Term yn ymwneud ag Ardaloedd Cadwraeth neu Adeiladau Rhestredig, ond hefyd â golwg unrhyw leoliad gwledig neu drefol o ran ei dirwedd neu batrwm y strydoedd a mannau agored, sydd yn aml yn rhoi hunaniaeth unigryw i’r gwahanol fannau. |
Cymuned | Pobl sy’n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy’n rhannu buddiannau cyffredinol eraill. |
Cynefin | Ardal o ddiddordeb o ran cadwraeth natur. |
Cynllun Cynnwys Cymunedau | Yn nodi prosiect a pholisïau prosiect yr awdurdod ar gyfer cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau, wrth baratoi’r CDLl. Cyflwynir y Cynllun i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cyflawni. |
Cynllun Datblygu Lleol | Y cynllun datblygu statudol gofynnol ar gyfer ardal pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru o dan Ran 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cynllun defnydd tir sy’n ddarostyngedig i archwiliad annibynnol a fydd yn ffurfio’r cynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf. Dylai gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ardal-gyfan ar gyfer mathau o ddatblygu, dyraniadau tir a, lle bo’n angenrheidiol, polisïau a chynigion ar gyfer meysydd allweddol o ran newid a gwarchodaeth. Rhaid dangos polisïau a dyraniadau’n ddaearyddol ar y Map Cynigion sy’n rhan o’r cynllun. |
Cynllun Gofodol Cymru | Cynllun sydd wedi’i baratoi ac wedi’i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 60 y Ddeddf, sy’n gosod fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisïau yn y dyfodol, p’un a yw’r rhain yn ymwneud â rheoli cynllunio defnydd tir ffurfiol ai peidio. O dan adran 62(5)(b) y Ddeddf, mae’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol ystyried Cynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl. |
Cysylltiedig yn uniongyrchol | Safleoedd sydd wedi’u cysylltu ag anheddiad yn ffisegol, yn swyddogaethol ac yn weledol. |
Cytundeb Adran 106 | Gweler y Rhwymedigaethau Cynllunio. |
Cytundeb Cyflenwi | Dogfen sy’n cynnwys amserlen yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer paratoi’r CDLl, ynghyd â’r Cynllun Cynnwys Cymunedau, a gyflwynir i’w gytuno gan Lywodraeth Cymru. |
Dangosydd | Mesur amrywiadau dros amser, a ddefnyddir yn aml i fesur a gyflawnwyd amcanion ai peidio. |
Datblygiad gwasgaredig | Datblygiad ar wasgar nad yw’n perthyn i unrhyw anheddiad neu grwpiau o adeiladau. Nid yw datblygiad gwasgaredig yn cyfrannu at hunaniaeth na chymeriad ei leoliad gan ei fod wedi’i ynysu o ardaloedd adeiledig. |
Datblygiad hirgul | Estyniad llinellol i aneddiadau, gan gynnwys datblygu ffryntiad ar hyd ffyrdd dynesu, sy’n achosi i ddatblygiad ymwthio i gefn gwlad yn ddiangen. Gall datblygu hirgul hefyd ddigwydd mewn aneddiadau, gall niweidio’r ffurf a’r cymeriad trefol a gall wneud tir datblygu posibl i’r cefn yn anghynhyrchiol. |
Datblygiad mewnlenwi | Datblygu bwlch bach rhwng adeiladau sy’n bodoli eisoes. Er mwyn cael ei ystyried yn ddatblygiad mewnlenwi, rhaid bod perthynas rhyngddo a maint a chymeriad yr anheddiad penodol. |
Datblygiad Tandem | Yn cynnwys tŷ sydd yn union y tu ôl i dŷ arall ac sy’n rhannu’r un mynediad. Gall cynigion o’r fath achosi anawsterau mynediad ac aflonyddu a diffyg preifatrwydd, a dylid eu hosgoi. |
Datblygu / Datblygiad | Caiff datblygu / datblygiad ei ddiffinio yn Adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel "the carrying out of building, engineering, mining or other operation in, on, over or under land, or the making of any material change in the use of any building or other land." Gall rhai gweithgareddau fod o gyn lleied o bwys fel bod yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn penderfynu nad ydynt yn ddatblygu / ddatblygiad (h.y. eu bod yn de minimis). |
Datblygu a ganiateir | Y categorïau datblygu y gellir eu cyflawni heb yr angen am ganiatâd cynllunio fel y nodir yng Ngorchymyn Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. |
Llinell Sylfaen/ Llinell Sylfaen Cyn Newid | Disgrifiad o sefyllfa bresennol ardal y dylid mesur newid yn ei herbyn. |
Defnydd Cymysg | Datblygiadau neu gynigion sy’n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd ar yr un safle. |
Dogfennau cynigion cyn-adneuo | Mae’r rhain yn cynnwys y weledigaeth, dewisiadau strategol, strategaeth a ffefrir, polisïau allweddol ac adroddiad cychwynnol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol. |
Dosbarthiadau Defnydd | Mae Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd (1987, fel y’i diwygiwyd) yn cynnwys y canlynol: A1: Siopau. A2: Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. A3: Bwyd a diod. B1: Swyddfeydd (nid y rhai yn nosbarth defnydd A2), Ymchwil a datblygu (cynhyrchion a phrosesau) neu unrhyw broses ddiwydiannol (defnydd y gellir ei weithredu mewn unrhyw ardal breswyl heb niweidio amwynder yr ardal honno). B2: Diwydiannol cyffredinol. B8: Storio a dosbarthu. C1: Gwestai, hosteli a thai llety. C2: Sefydliadau preswyl, ysgolion a cholegau preswyl, ysbytai a chartrefi nyrsio. C3: Anheddau. D1: Sefydliadau Amhreswyl, mannau addoli, clinigau, canolfannau iechyd, meithrinfeydd dydd, amgueddfeydd, neuaddau cyhoeddus, llyfrgelloedd, canolfannau addysg a hyfforddiant amhreswyl ac ati. D2: Sinemâu, neuaddau cyngherddau, neuaddau dawnsio, neuaddau chwaraeon, campfeydd, pyllau nofio, defnyddiau chwaraeon a hamdden eraill dan do ac yn yr awyr agored. Sui Generis: Defnydd sydd heb ei gynnwys o dan unrhyw Ddosbarth Defnydd ac y’i disgrifir felly fel Sui generis (dosbarth ar ei ben ei hun) e.e. ystafelloedd arddangos ceir, gorsafoedd petrol ac ati. |
Dwysedd | Yn achos datblygiad preswyl, mesuriad o naill ai nifer yr ystafelloedd cyfanheddol i bob hectar neu nifer yr anheddau i bob hectar. |
Dyfroedd a reolir |
Mae dyfroedd a reolir yn cynnwys afonydd, llynnoedd, pyllau, nentydd, camlesi, dyfroedd arfordirol, aberoedd a dŵr daear. (Dyfroedd daear yw unrhyw ddŵr a gynhwysir mewn strata tanddaearol, gan gynnwys priddoedd). |
Dyraniad | Tir a fwriedir ar gyfer defnydd penodol ac a nodir ar fap cynigion y CDLl. |
Dyraniadau safle benodol | Dyraniadau safleoedd (cynigion) ar gyfer defnydd penodol neu gymysg neu ddatblygiad a geir mewn cynllun datblygu. Bydd polisïau’n nodi unrhyw ofynion penodol ar gyfer cynigion unigol. Caiff y dyraniadau eu dangos ar fap cynigion y CDLl. |
Gorlifdir | Ardaloedd isel fel arfer sy’n gyfagos i gwrs dŵr, hydoedd llanwol afon neu’r môr, lle bydd dŵr yn llifo ar adegau llifogydd neu a fyddai’n llifo oni bai am amddiffynfeydd rhag llifogydd. |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol | Ardal a ddynodwyd oherwydd ei bwysigrwydd cenedlaethol yn nhermau cadwraeth natur ac a reolir trwy gytundebau gwarchodfa natur ar y cyd gyda thirfeddianwyr ac ati. |
Gwarchodfa Natur Leol | Ardal a ddynodir oherwydd ei phwysigrwydd o ran cadwraeth natur leol. |
Gweithredu | Rhoi ar waith. |
Hap-safleoedd | Safle nad yw wedi’i ddyrannu’n benodol ar gyfer datblygu a ddaw ar gael i’w ddatblygu yn ystod oes y cynllun. |
Hygyrchedd | Gallu pobl i symud o gwmpas ardal a chyrraedd lleoedd a chyfleusterau, gan gynnwys pobl oedrannus ac anabl, rhai â phlant ifanc a rhai’n cario bagiau trwm neu letchwith. |
Lliniaru | Mesurau i osgoi, lleihau neu leddfu effeithiau andwyol sylweddol. |
Maes Chwarae | Tir â maes neu feysydd ar gyfer gemau. |
Man Agored | Yr holl fannau o werth cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd cyhoeddus a dirweddwyd, caeau chwarae, parciau a mannau chwarae, ac nid tir yn unig, ond hefyd mannau â dŵr fel afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd sy’n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden neu’n gallu bod yn amwynder gweledol ac yn hafan i fywyd gwyllt. |
Monitro | Defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd wrth adolygu ac asesu’r ffordd y gweithredir y CDLl. |
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) | Dogfen wedi’i seilio ar bwnc penodol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i atodi Polisi Cynllunio Cymru. |
Polisi Cynllunio Cymru | Mae Polisi Cynllunio Cymru’n nodi polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir. Caiff ei atodi gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol. Rhoddir cyngor gweithdrefnol trwy gylchlythyrau a llythyrau egluro polisi. |
RAMSAR | Safle gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur. Awdurdodir y dynodiad gan Gonfensiwn RAMSAR 1971, trwy’r hwn y bydd Llywodraethau Ewropeaidd sy’n ymrwymo iddo yn addo gwarchod ardaloedd o’r fath. |
Rhanddeiliaid | Buddiannau y mae’r CDLl (a/neu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol) yn effeithio arnynt yn uniongyrchol - cânt eu cynnwys fel arfer drwy gyrff cynrychioliadol. |
Rhwymedigaeth Gynllunio | Cytundeb cyfreithiol rhwng ymgeisydd a’r awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyflawni mewn ffordd benodol. Cyfeirir ati hefyd fel Cytundeb Adran 106. |
Safle eithriedig gwledig | Safle tai ar raddfa fach, mewn aneddiadau gwledig sy’n bodoli eisoes neu’n gyffiniol â hwy, i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, na fyddai’n cael ei ddyrannu fel arall yn y cynllun datblygu. (TAN2: Rhestr Termau) |
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig | Caiff Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu pennu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i warchod planhigion ac anifeiliaid a nodweddion daearegol neu ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig. |
Sail Dystiolaeth | Dehongliad o wybodaeth/data’r Llinell Sylfaen neu wybodaeth/data arall i ddarparu’r sail ar gyfer polisi’r cynllun. |
Seilwaith | Yn cynnwys gwasanaethau fel ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a chyfleusterau trin dŵr gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy) a rhwydweithiau dosbarthu a’r seilwaith telathrebu. Mae’r seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu. |
Tai Fforddiadwy | Tai a ddarperir i’r rhai nad yw’r farchnad agored yn diwallu eu hanghenion. Dylai tai fforddiadwy: • ddiwallu anghenion aelwydydd cymwys, gan gynnwys tai am bris digon isel iddynt ei fforddio, a bennir gan ystyried incymau lleol a phrisiau tai lleol; a • chynnwys darpariaeth i’r cartref aros yn fforddiadwy i aelwydydd cymwys yn y dyfodol, neu os yw’r cartref yn peidio â bod yn fforddiadwy neu os yw’r preswylwyr yn cynyddu cyfran eu perchentyaeth hyd at berchnogaeth lawn, fel arfer dylid ailgylchu unrhyw gymorthdaliadau i ddarparu tai fforddiadwy yn ei le. Rhennir hyn yn ddau is-gategori: • tai rhent cymdeithasol – a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lle mae lefelau’r rhent yn ystyried rhenti awgrymedig a rhenti meincnod Llywodraeth y Cynulliad; a • thai canolradd – lle mae prisiau neu renti’n uwch na rhai’r tai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti’r farchnad dai. Gall hyn gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti (er enghraifft Homebuy). Mae tai canolradd yn wahanol i dai cost isel ar y farchnad, nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn eu hystyried yn dai fforddiadwy at ddibenion y system cynllunio defnydd tir. (TAN 2: Rhestr Termau) |
Tai’r Farchnad Agored | Tai preifat i’w rhentu neu werthu lle pennir y pris yn y farchnad agored. (TAN2: Rhestr Termau) |
Terfynau Datblygu | Llinell a dynnir er mwyn diffinio ardal anheddiad lle mae datblygu’n dderbyniol mewn egwyddor, yn amodol ar ystyriaeth fanwl o’r ystyriaethau o ran yr amgylchedd, amwynder, mynediad, darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ac ystyriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw hynny’n awgrymu ei bod yn dderbyniol datblygu’r holl fannau agored ac ardaloedd tanddatblygedig o fewn y terfynau. Caiff yr ardaloedd y tu allan i’r terfynau eu hystyried yn gefn gwlad agored. |
Tir a ddatblygwyd o’r blaen | Tir ac arno strwythur parhaol, neu y bu strwythur parhaol arno (ac eithrio adeiladau amaethyddol neu goedwigaeth) ynghyd â seilwaith wyneb sefydlog. Gweler hefyd y Diffiniad o Dir a ddatblygwyd o’r blaen ym Mholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 5. |
Tir Cyflogaeth | Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu ragor o’r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu (gweler hefyd Dosbarthiadau Defnydd) |
Tir Halogedig | Tir lle cadarnhawyd bod sylweddau ar y safle a allai gyfyngu ar ei ail-ddefnyddio a’i ddatblygu. |
Trefn chwilio | Wrth bennu dyraniadau preswyl, dylid dilyn trefn chwilio sy’n dechrau gydag ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen ac adeiladu mewn aneddiadau, wedyn estyniadau i aneddiadau ac yna datblygiadau newydd o amgylch aneddiadau (gyda chysylltiadau trafnidiaeth da). |
Ymrwymiadau | Tir nas datblygwyd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu dir sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. |
Ynni Adnewyddadwy | Ffynonellau ynni, ar wahân i danwydd ffosil neu niwclear, sydd ar gael yn barhaus ac yn gynaliadwy yn ein hamgylchedd, gan gynnwys ynni gwynt, dŵr, solar a geothermol. |