7.1.1 Wrth roi’r CDLl ar waith, bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio â phartneriaid a sefydliadau allanol a’r sector preifat er mwyn gweithredu mwyafrif llethol y cynigion datblygu newydd, gan gynnwys cynlluniau cyflogaeth a thai. Mae’r fframwaith monitro yn nodi’r cyrff a’r asiantaethau sy’n debygol o gyfrannu at gyflenwi agweddau penodol o’r Cynllun.
7.1.2 Er mwyn cyflawni datblygiadau newydd, mae bod â’r seilwaith priodol gan gynnwys cyflenwad dwr, system carthffosiaeth, draenio tir, nwy, trydan a thelathrebu’n hanfodol i sicrhau y cyflawnir polisïau a chynigion y Cynllun. Mewn rhai achosion lle bo angen seilwaith newydd neu well ar gyfer datblygiad newydd, gellir ei ddarparu trwy waith a drefnir a wneir gan y cwmnïau cyfleustodau. Lle bo angen gwelliannau i’r seilwaith ar gyfer datblygiad newydd ond nad ydynt wedi’u cynnwys ar raglen amserlen y datblygiad, bydd angen i’r darpar ddatblygwyr ddarparu neu archebu’r seilwaith sy’n ofynnol i ganiatáu i’r datblygiad fynd yn ei flaen.
7.1.3 Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Dwr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau na fydd datblygiadau newydd yn rhoi pwysau arwyddocaol ar y seilwaith presennol nac yn effeithio’n arwyddocaol ar yr ansawdd amgylcheddol. Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r asiantaethau hynny a darparwyr gwasanaethau eraill, y cwmnïau cyfleustodau a’r sector preifat i sicrhau’r ddarpariaeth seilwaith ofynnol ar yr amser gorau posibl o ran symud tuag at gyflawni amcanion y Cynllun, a bydd yn sicrhau mesurau priodol i liniaru’r effeithiau andwyol arwyddocaol y byddai datblygiad newydd yn eu cael ar yr amgylchedd naturiol. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol a’r Briffiau Datblygu ar Safleoedd Strategol yn rhoi gwybodaeth fwy manwl am ofynion o ran y seilwaith ac am gydweithio er mwyn sicrhau cyflenwi.
7.1.4 Bydd gallu’r sector preifat, a’r sector cyhoeddus i ryw raddau, i gyflawni datblygiadau newydd a’r gwelliannau cysylltiedig i’r seilwaith yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan amgylchiadau economaidd allanol. Am y rheswm hwn, mae cyflymder y gwaith datblygu’n debygol o amrywio dros gyfnod y cynllun.
7.1.5 Bydd y Cyngor hefyd yn cydweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol cyfagos i sicrhau bod CDLl Sir Gaerfyrddin wedi’i alinio â’u strategaethau hwy ac er mwyn pennu a lleihau effeithiau cyfunol tebygol cynigion y Cynllun.
7.1.6 Mae’r tabl isod yn dangos y polisïau strategol a nodir ym Mhennod 5 o’r CDLl hwn ac yn nodi’r mecanweithiau i’w gweithredu. Mae’n disgrifio’r partneriaid a’r asiantaethau mewnol ac allanol a fydd yn cyfrannu at eu gweithredu, a lle bo’n briodol bydd yn disgrifio’r offer a ddefnyddir, fel y Canllawiau Cynllunio Atodol a’r Briffiau Datblygu ac ati.
7.1.7 Bydd y llwyddiant o ran gweithredu’r Cynllun yn cael ei fonitro’n barhaus a chaiff mecanweithiau ychwanegol priodol eu hystyried er mwyn sicrhau bod y prosesau gorau ar waith ac y defnyddir y wybodaeth briodol i oleuo a llywio’r gwaith gweithredu.
7.1.8 Mae’r tabl canlynol yn disgrifio sut y caiff y polisïau strategol eu rhoi ar waith.
Polisi strategol | Mecanwaith ar gyfer Gweithredu (heb fod yn hollgynhwysol) | Cysylltiadau, Asiantaethau a Phartneriaid Strategol | Gofynion |
---|---|---|---|
SP1 Lleoedd Cynaliadwy |
• Polisi a chanllawiau cynllunio
• Polisi a chynigion y CDLl hwn gan gynnwys cysylltiadau â SP2 a GP1. • Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth. • Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Y Strategaeth Gymunedol Integredig. |
• Strategaeth Gymunedol Integredig gyda chysylltiadau hyd at y bwrdd gwasanaethau lleol.
• Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd rhan yn drawsadrannol • LlC (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth) • Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol • Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe • Cymunedau’n cymryd rhan wrth baratoi’r Canllawiau Cynllunio Atodol |
• Synergedd corfforaethol.
• Gweithredu canllawiau a dehongli gofynion polisi. |
SP2 Y Newid yn yr Hinsawdd |
• Polisi a chanllawiau cynllunio
• Polisi a chynigion y CDLl hwn gan gynnwys cysylltiadau â SP1 a pholisïau eraill • Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth • Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Strategol • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau • Y Strategaeth Gymunedol Integredig |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Bwrdd gwasanaethau lleol. • Heddlu Dyfed Powys. • Strategaeth gorfforaethol. • Cyfoeth Naturiol Cymru. • Datblygwyr. |
• Synergedd corfforaethol.
• Gweithredu canllawiau a dehongli gofynion polisi. |
SP3 Dosbarthu Cynaliadwy – Y Fframwaith Aneddiadau |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Lliniaru cynefinoedd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig (lle bônt yn berthnasol). |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau cyfagos. • Datblygwyr. • Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru). |
• Canolbwyntio ar ddatblygiad mewn ffordd sy’n cefnogi’r strategaeth.
• Cyflawni mewn Ardaloedd Twf penodol yn ddibynnol ar ddull integredig o roi sylw i gyfyngiadau. |
SP4 Safleoedd Strategol |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Lliniaru cynefinoedd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig (lle bônt yn berthnasol). • Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol. • Briffiau cynllunio a datblygu sy’n bodoli eisoes ac a gynigir. • Dogfennau uwchgynllunio. |
• Cyngor Sir (cymryd rhan yn drawsadrannol)
• Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin) • Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol • Datblygwyr. • Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol. • Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe. |
• Materion ansawdd cynefinoedd a dŵr (lle bônt yn gymwys).
• Cyllid ariannol a chyllid grantiau. |
SP5 Tai SP6 Tai Fforddiadwy |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl (gan gynnwys dyraniadau preswyl).
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol. • Briffiau cynllunio a datblygu sy’n bodoli eisoes. • Dogfennau uwchgynllunio. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Y Strategaeth Gymunedol Integredig. • Y Strategaeth Dai. • Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. • Yr angen am dai fforddiadwy. • Pecyn Cymorth Three Dragons. • Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr chwe-misol. • Asesiad o Fethodoleg Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fel y dangosir yn Atodiad 1 o Bapur Pwnc 11 Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol. • Datblygwyr. • Asiantau. • Penseiri. • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. • Cynghorau Cymunedol lleol a Chynghorau Tref. • Swyddogion Galluogi Tai Gwledig. • Bwrdd Gwasanaethau Lleol. |
• Yn dibynnu i raddau ar gyflenwi’r caniatâd presennol
• Dylanwad amodau’r farchnad • Materion o ran dibynnu ar gyllid a grantiau • Adnabod a chyflenwi Safleoedd addas i Sipsiwn a Theithwyr |
SP7 Dyraniadau Tir Cyflogaeth |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol. • Briffiau cynllunio a datblygu. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Astudiaeth o dir cyflogaeth a monitro safleoedd. • Strategaethau economaidd ac adfywio. • Rheoli gwastraff. • Strategaeth Gymunedol Integredig. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol. • Bwrdd Gwasanaethau Lleol. • LlC (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth). • Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol. • Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe. • Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin). • Cynghorau cymunedol lleol a chynghorau tref. • Datblygwyr, asiantau, penseiri. |
• Amodau’r farchnad ac argaeledd cyllid. |
SP8
Manwerthu |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Uwchgynlluniau a briffiau cynllunio a datblygu perthnasol. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Astudiaeth o Fanwerthu ac Adeiladau Masnachol mewn Canol Trefi a’u monitro. • Asesiadau effaith manwerthu. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin
• Rheolwyr Canol Tref • Datblygwyr • Asiantau a Phenseiri • Busnesau manwerthu a chanol tref. |
• Rhoi polisïau ar waith a chynnal lefelau manwerthu (lle bo’n berthnasol).
• Amodau’r farchnad. |
SP9 Trafnidiaeth |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl
• Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau • Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol • Blaenoriaethau Sir Gaerfyrddin ar gyfer Trafnidiaeth • Blaenraglen Cefnffyrdd LlC • Cynlluniau Teithio Gwyrdd • Strategaeth Beicio • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy |
• Cyngor Sir Caerfyrddin. • Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol. • Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe. • Datblygwyr. • Yr Asiantaeth Cefnffyrdd. • Darparwyr Trafnidiaeth. • Network Rail. • LlC. • Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin). |
• Cysylltiadau rhannol â chyflenwi safleoedd strategol (gweler polisi SP4).
• Cyllid ariannol a chyllid grant. |
SP10 Adnoddau Mwynau |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisïau a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau Cyfagos. • Y Diwydiant Mwynau. • Gweithgor Mwynau a Gwastraff Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru. • Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Orllewin Cymru. |
• Mewnbwn cyfyngedig o ran sicrhau y caiff y gofyniad am fwynau ei ddiwallu.
• Mae’r ddarpariaeth safleoedd bresennol yn fwy na’r angen. |
SP11 Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisïau a chynigion y CDLl hwn.
• Canllawiau Cynllunio Atodol: Coedwig Brechfa. • Canllawiau Cynllunio Atodol: Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• LlC. • Awdurdodau cyfagos – Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. • Darparwyr seilwaith ffermydd gwynt a datblygwyr preifat. • Yr Arolygiaeth Gynllunio. |
• Canolbwyntio ar ddatblygu mewn modd sy’n gyson â TAN8.
• Dylanwad cymhelliannau a chymorth ariannol. |
SP12 Rheoli Gwastraff |
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Darparu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws. • Strategaeth Wastraff Ranbarthol. • Astudiaeth Tir Cyflogaeth. • TAN 21: Gwastraff. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau cyfagos. • CWM Environmental. • Gweithgor Mwynau a Gwastraff Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru. • Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De Orllewin Cymru. • Cyfoeth Naturiol Cymru. • Datblygwyr, asiantau a phenseiri. |
• Rhoi polisïau ar waith.
• Lefelau darpariaeth a gofynion tir. • Gofynion a safonau amgylcheddol. |
SP13 Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl. • Rheoli cadwraeth a datblygiadau, a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Canllawiau Cynllunio Atodol: Dylunio a’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Cadw. • Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. • Datblygwyr a pherchnogion eiddo. |
• Cyllid ar gael ar gyfer lliniaru a chymorth grant ar gyfer gwaith atgyweirio. |
SP14 Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl hwn. • Paratoi a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol; ACA Caeau Mynydd Mawr; Canllawiau Cynllunio Atodol: Bioamrywiaeth, Canllawiau Cynllunio Atodol: Coed, Tirweddu a Datblygu, Canllawiau Cynllunio Atodol: Tirwedd a chanllawiau dylunio Ardal Tirwedd Arbennig. • Briffiau cynllunio a datblygu. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Strategaeth Gymunedol Integredig. • Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn draws-adrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru). |
• Cadw at y gofynion deddfwriaethol.
• Rhoi polisïau ar waith. • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. |
SP15 Twristiaeth a’r Economi Ymwelwyr |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl. • Strategaeth Gymunedol Integredig. |
• Y diwydiant twristiaeth.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol). • Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol. |
• Rhoi polisïau ar waith.
• Cyllid ariannol a chyllid grant. |
SP16 Cyfleusterau Cymunedol |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl. • Asesiad Mannau Gwyrdd. • Strategaeth Gymunedol Integredig. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol)
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol • Cynghorau cymunedol lleol a chynghorau tref. • Bwrdd Gwasanaethau Lleol. • Mentrau Iaith. |
• Cadw at y gofynion deddfwriaethol
• Rhoi polisïau ar waith • Cyllid ariannol a chyllid grant. |
SP17 Seilwaith |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDL.l • Gwelliannau a drefnwyd i’r seilwaith. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio. • Darparu’r Canllawiau Cynllunio Atodol a’r briffiau datblygu ar gyfer safleoedd strategol. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Cyrff ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru) a darparwyr y seilwaith. |
• Yn dibynnu i raddau ar raddfa’r datblygiad ac amodau’r farchnad.
• Yn gysylltiedig ag SP4 ac SP9. |
SP18 Yr Iaith Gymraeg |
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl hwn. • Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau. • Canllawiau Cynllunio Atodol: Yr Iaith Gymraeg. |
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Strategaeth Gymunedol Integredig. • Mentrau Iaith. |
• Rhoi polisïau ar waith. |
Tabl 10 – Gweithredu Polisiau Strategol
7.2.1 Mae’r adran hon yn amlinellu fframwaith monitro a ddefnyddir fel offeryn i fesur y gwaith o weithredu polisïau’r CDLl. Mae’r fframwaith yn cynnwys cyfres o ddangosyddion perfformiad craidd a lleol y bwriedir iddynt fonitro effeithiau a llwyddiannau polisïau’r Cynllun.
7.2.2 Caiff y wybodaeth a gesglir trwy’r fframwaith monitro ei chyflwyno yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Rhaid i’r Adroddiad gynnwys y flwyddyn ariannol flaenorol a rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31ain Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu’r CDLl. Yr Adroddiad yw’r prif fecanwaith ar gyfer mesur gweithrediad a llwyddiant polisïau’r Cynllun a bydd yn adrodd ar faterion sy’n effeithio ar amcanion y Cynllun. Bydd yr Adroddiad hefyd yn dadansoddi effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus polisïau’r Cynllun yng ngoleuni polisïau cenedlaethol a newidiadau mewn amgylchiadau. Gallai canfyddiadau’r Adroddiad arwain at newidiadau i bolisïau er mwyn gwella eu heffeithiolrwydd, ac mewn achosion mwy eithafol, gallent arwain at adolygu’r Cynllun yn rhannol neu yn gyfan. Bydd yr Adroddiad yn nodi canlyniadau’r fframwaith monitro a bydd y data a gesglir, lle bo’n ofynnol, yn rhoi naratif cyd-destunol i bob canfyddiad. Lle bo’n briodol, bydd hynny’n rhoi sylw i’r dewisiadau a nodir ym mharagraff 7.2.5 isod.
7.2.3 Beth bynnag yw canfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol, bydd yn ofynnol i’r Cyngor gynnal adolygiad o’r Cynllun cyfan bob 4 blynedd. Gallai hyn arwain at gynhyrchu Cynllun newydd neu newid agweddau o’r Cynllun.
7.2.4 Mae Rheoliad 37 CDLl yn rhagnodi dau ddangosydd craidd y mae’n rhaid eu cynnwys yn yr Adroddiad Monitro:
Caiff y ddau ddangosydd hyn a dangosyddion craidd eraill sy’n ofynnol gan LlC eu nodi â seren yn y fframwaith monitro. Caiff dangosyddion cyd-destunol eu defnyddio’n ogystal yn yr Adrodd Monitro Blynyddol i werthuso ai’r Cynllun mewn gwirionedd sy’n methu â chyrraedd y targedau ynteu a oes ffactorau allanol (fel yr economi neu newidiadau mewn ffynonellau cyllid ac ati), sydd y tu hwnt i reolaeth y system cynllunio, sy’n dylanwadu ar ganlyniadau’r fframwaith.
7.2.5 Mae’r dewisiadau canlynol ar gael i’r Cyngor o ran pob un o’r dangosyddion a’u sbardunwyr. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu difrifoldeb y sefyllfa sy’n gysylltiedig â phob dangosydd ac yn argymell ymateb priodol.
Parhau i fonitro: Lle bo’r dangosyddion yn awgrymu bod polisïau’r CDLl yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac nad oes rheswm dros gynnal adolygiad.
Angen Hyfforddiant ar Swyddogion / Aelodau: Lle bo’r dangosyddion sy’n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio’n awgrymu nad yw’r polisïau’n cael eu rhoi ar waith fel y’u bwriadwyd a bod angen rhagor o hyfforddiant ar swyddogion neu aelodau.
Canllawiau Cynllunio Atodol / Briffiau Datblygu sy’n ofynnol: Er y bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol a Briffiau Datblygu drwy gydol cyfnod y Cynllun, mae’n bosibl y bydd dangosyddion yn awgrymu y dylid darparu canllawiau pellach i ddatblygwyr ar sut i ddehongli polisi’n gywir. Hefyd, os nad yw safleoedd yn dod i’r amlwg fel y disgwyliwyd, bydd y Cyngor yn ymgysylltu’n weithredol â datblygwyr / tirfeddianwyr i gyflymu Briffiau Datblygu ar safleoedd allweddol er mwyn helpu i ddechrau’r broses ddatblygu.
Ymchwilio Polisi: Lle bo dangosyddion monitro’n awgrymu nad yw polisïau’r CDLl mor effeithiol ag y bwriadwyd, caiff ymchwilio pellach, gan gynnwys defnyddio dangosyddion cyd-destunol (fel y nodwyd uchod) a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill ac ystadegau cenedlaethol lle bo’n briodol, eu cynnal er mwyn llywio unrhyw benderfyniad i adolygu’r polisi’n ffurfiol.
Adolygu’r Polisi: Lle bo dangosyddion monitro’n awgrymu y byddai newidiadau i’r CDLl yn fuddiol, bydd y Cyngor yn ystyried addasu’r Cynllun fel bo’n briodol.
Strategaeth Ofodol | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS2, AS3 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP1, SP3, SP4, SP5, SP7 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Dylid lleoli 85% o’r holl ddatblygiadau tai a ganiateir ar safleoedd dyranedig. | % y caniatadau tai cyffredinol sydd ar safleoedd dyranedig.* | Dylid lleoli 85% o’r holl ddatblygiadau tai a ganiateir bob blwyddyn ar safleoedd dyranedig. | Cyfran yr aneddiadau a ganiateir ar safleoedd dyranedig yn gwyro 20% +/- o’r targed a nodwyd. |
Y cyfrannau canlynol o anheddau i’w caniatáu ar ddyraniadau tai fel a ganlyn: Ardaloedd Twf 62% Canolfannau Gwasanaethau 10% Canolfannau Gwasanaethau Lleol 12% Cymunedau Cynaliadwy 15% |
Cyfran y tai a ganiatawyd ar ddyraniadau fesul rhes yr hierarchaeth aneddiadau. | Dosbarthiad yr anheddau i fod yn unol â’r cyfrannau a nodwyd yn y targed. | Dosbarthiad yr anheddau mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol yn gwyro 20% +/- o’r cyfrannau a nodwyd yn y targed. Dosbarthiad yr anheddau mewn Cymunedau Cynaliadwy’n gwyro 10% +/- o’r cyfrannau a nodwyd yn y targed. |
Cyflymu argaeledd safleoedd cyflogaeth strategol. | Caniatadau ar gyfer, neu argaeledd, seilwaith ar y safle neu gysylltiedig sy’n hwyluso’r gwaith o gyflenwi safleoedd cyflogaeth strategol (ha) fel y rhestrir ym Mholisi SP4.* | Erbyn 2018, bernir y bydd yr holl safleoedd cyflogaeth strategol ar gael yn syth neu ar gael yn y tymor byr h.y. bydd y safleoedd naill ai’n cael budd o ganiatâd cynllunio neu argaeledd seilwaith ar y safle neu gysylltiedig i hwyluso datblygu. | Erbyn 2018, nid yw’r holl safleoedd cyflogaeth strategol ar gael yn syth neu ar gael yn y tymor byr. |
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin (Adolygiad Tir Cyflogaeth). |
Datblygu Cynaliadwy | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS1, AS2, AS5 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP1, SP2 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Erbyn 2021 caiff 32% o’r datblygiadau ar ddyraniadau tai eu cyflenwi ar safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen. | Caniatâd ar gyfer datblygiadau preswyl ar ddyraniadau tai a ddatblygwyd o’r blaen.* | Dylai 29% o’r anheddau a ganiatawyd ar safleoedd dyranedig fod ar ddyraniadau a ddatblygwyd o’r blaen. Cesglir gwybodaeth yn flynyddol. Mae’r ffigur monitro blynyddol uchod yn rhoi ystyriaeth i nifer yr anheddau a gwblhawyd eisoes ar safleoedd dyranedig a ddatblygwyd o’r blaen. |
Caniateir llai na 29% (gydag amrywiant ychwanegol o 20% o dan y ffigur targed i ganiatáu am hyblygrwydd) o anheddau trwy ddyraniadau tai ar dir a ddatblygwyd o’r blaen dros gyfnod o ddwy flynedd. |
Ni ddylai unrhyw ddatblygiad sy’n agored iawn i niwed ddigwydd mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a chanllawiau TAN 15. | Nid yw nifer y datblygiadau sy’n agored iawn i niwed (yn unol â chategori datblygu paragraff 5.1 TAN 15) a ganiateir mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn bodloni holl brofion TAN 15 (paragraff 6.2 i-v).* | Ni chaniateir unrhyw geisiadau ar gyfer datblygiadau sy’n agored iawn i niwed mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru. | 1 cais wedi’i ganiatáu ar gyfer datblygiad sy’n agored iawn i niwed mewn parth perygl llifogydd C1 neu C2, yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru. Nodyn: Bydd yn ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfeirio’r holl geisiadau maent yn bwriadu eu cymeradwyo ar gyfer datblygu gwasanaethau brys neu ddatblygiad sy’n agored iawn i niwed, lle bo’r holl dir lle bwriedir lleoli’r datblygiad mewn parth llifogydd C2, i Weinidogion Cymru. Yn achos datblygiad preswyl, y trothwy ar gyfer rhoi gwybod i Weinidogion Cymru yw 10 annedd neu fwy, gan gynnwys fflatiau. |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Systemau Draenio Cynaliadwy. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Systemau Draenio Cynaliadwy. | Canllawiau Cynllunio Atodol heb eu cynhyrchu o fewn 5 mis i fabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai |
Tai | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS3, AS14 | |||
Prif Bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol: PS5, PS6, H1, H7, AH1 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Cynnal cyflenwad o dir tai am o leiaf 5 mlynedd. | Y cyflenwad o dir tai a gymerwyd o’r Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai cyfredol (TAN 1).* | Cynnal cyflenwad o dir tai am o leiaf 5 mlynedd. | Cyflenwad y tir tai yn disgyn yn is na’r gofyniad 5 mlynedd. |
Darparu 15,197 o anheddau erbyn 2021. | Nifer yr anheddau a ganiateir yn flynyddol.* | Caniatáu 1,405 o anheddau’n flynyddol. | Caniatáu 20% +/- 2,810 o anheddau yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. |
Darparu 2,375 o anheddau ar hap-safleoedd erbyn 2021. | Nifer yr anheddau a ganiateir ar hap-safleoedd. | Caniatáu 186 o anheddau’n flynyddol ar hap-safleoedd. | Caniatáu 20% +/- 372 o anheddau ar hap-safleoedd yn y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. |
Darparu safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli. | Nifer y lleiniau Sipsiwn a Theithwyr gofynnol. | Canfod safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli erbyn 2016. Darparu safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli erbyn 2017. |
Methu â chanfod safle erbyn 2016. Methu â darparu safle erbyn 2017. |
Monitro’r angen am safleoedd tramwy i Sipsiwn a Theithwyr. | Nifer flynyddol y carafanau Sipsiwn a Theithwyr awdurdodedig ac anawdurdodedig yn y sir. | Dim safle Sipsiwn a Theithwyr wedi’i gofnodi mewn un anheddiad am 3 mlynedd yn olynol. | 1 safle Sipsiwn a Theithwyr anawdurdodedig wedi’i gofnodi mewn un anheddiad am 3 mlynedd yn olynol. |
Caniatáu 2,121 o anheddau fforddiadwy erbyn 2021. | Nifer yr anheddau fforddiadwy a ganiateir.* | Caniatáu 226 o anheddau fforddiadwy yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Caniatáu 452 o anheddau yn ystod y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. |
Peidio â chaniatáu 20% +/- 452 o anheddau fforddiadwy yn ystod y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. |
Targedau tai fforddiadwy i adlewyrchu’r amgylchiadau economaidd. | Targed canrannol o ran tai fforddiadwy ym Mholisi AH1. | Y targed i adlewyrchu amgylchiadau economaidd. | Os yw prisiau tai cyfartalog yn codi 5% yn uwch na phris sylfaen lefelau 2013 a’u cynnal dros 2 chwarter, gall yr Awdurdod gynnal profion hyfywedd ychwanegol ac addasu’r targedau a osodwyd ym Mholisi AH1. |
Anheddau fforddiadwy i’w caniatáu ar ddyraniadau tai i bob ardal is-farchnad fel a ganlyn:
• Llanymddyfri, Llandeilo a Gogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin • Sanclêr a’r Ardaloedd Gwledig o’i Chwmpas • Caerfyrddin a’i Hardaloedd Gwledig • Castell Newydd Emlyn a’r Ardal Wledig Ogleddol • Cydweli, Porth Tywyn, Pen-bre a Chwm Gwendraeth Isaf • Llanelli • Rhydaman / Cross Hands a Dyffryn Aman |
Nifer yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau tai i bob ardal is-farchnad. | Dylai cyfran yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl fod yn unol â Pholisi AH1 fel a ganlyn:
• Llanymddyfri, Llandeilo a Gogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin – 30% • Sanclêr a’r Ardaloedd Gwledig o’i Chwmpas – 30% • Caerfyrddin a’i Hardaloedd Gwledig 30% • Castell Newydd Emlyn a’r Ardal Wledig Ogleddol – 20% • Cydweli, Porth Tywyn, Pen-bre a Chwm Gwendraeth Isaf – 20% • Llanelli – 20% • Rhydaman / Cross Hands a Dyffryn Aman – 10% |
Nid yw cyfran yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl yn unol â pholisi AH1. |
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr chwe-misol, y Gofrestr o Wersylloedd Anghyfreithlon, StatsCymru |
Yr Economi a Chyflogaeth | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS11 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP7, EMP1, EMP6 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
111.13ha o dir cyflogaeth a ddyrannwyd gan Bolisi SP7 yn cael ei ddatblygu dros gyfnod y Cynllun. | Caniatadau wedi’u rhoi i ddatblygu ar dir cyflogaeth a restrir ym Mholisi SP7.*
Caniatadau ar gyfer, neu argaeledd, seilwaith ar y safle neu gysylltiedig sy’n hwyluso’r gwaith o gyflenwi safleoedd cyflogaeth (ha) fel y rhestrir ym Mholisi SP7.* |
25% o’r tir cyflogaeth a ddyrannwyd gan Bolisi SP7 naill ai’n cael caniatâd cynllunio neu ar gael i’w ddatblygu cyn pen y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. At ddibenion monitro tir cyflogaeth, bydd ‘ar gael’ yn dangos bod y safleoedd naill ai’n cael budd o ganiatâd cynllunio neu argaeledd seilwaith ar y safle neu gysylltiedig i hwyluso’r gwaith datblygu. |
Llai na 25% o dir cyflogaeth wedi’i ddyrannu gan Bolisi SP7, gydag amrywiad pellach o 20% o dan y ffigur targed i ganiatáu am hyblygrwydd, wedi’i ganiatáu neu ar gael cyn pen 2 flynedd ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. Naratif blynyddol i ddisgrifio cynnydd tuag at gyflenwi. |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fenter Wledig. | Cynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol. | Canllawiau Cynllunio Atodol heb eu cynhyrchu cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Cyngor Sir Caerfyrddin (Adolygiad Tir Cyflogaeth), Ceisiadau a Chaniatadau Cynllunio. |
Manwerthu | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS9, AS11 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP8, RT2, RT3 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Sicrhau nad yw’r cyfraddau gwacter yn ardaloedd Prif Ffryntiad Manwerthu a Ffryntiad Manwerthu Eilaidd trefi’r Ardaloedd Twf yn tyfu i lefel a fyddai’n cael effaith andwyol ar fywiogrwydd y canolfannau hynny. | Cyfraddau gwacter blynyddol yr eiddo masnachol yn ardaloedd Prif Ffryntiad Manwerthu a Ffryntiad Manwerthu Eilaidd trefi’r Ardaloedd Twf. | Cyfraddau gwacter eiddo masnachol yng nghanol trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli. | Monitro am wybodaeth. |
Cynnal cyfanrwydd y Prif Ffryntiad Manwerthu. | Cyfran yr unedau a ddefnyddir at ddibenion manwerthu A1 a leolir yn y Prif Ffryntiad Manwerthu fel y dynodwyd gan Bolisi RT2. | 65% neu ragor o’r unedau yn y Prif Ffryntiad Manwerthu’n cael eu defnyddio at ddibenion A1. | Llai na 65% o’r unedau yn y Prif Ffryntiad Manwerthu’n cael eu defnyddio at ddibenion A1 gydag amrywiad ychwanegol o 10% o dan y ffigur targed i ganiatáu ar gyfer hyblygrwydd. |
Ffynonellau Data: Ceisiadau a chaniatadau cynllunio, Astudiaeth o Adeiladau Manwerthu a Masnachol Canol Trefi Sir Gaerfyrddin |
Trafnidiaeth | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS2, AS10 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP9, GP4, TR4 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Gweithredu’r cynlluniau ffyrdd a nodir ym Mholisi SP9. | Cynnydd tuag at weithredu’r cynlluniau ffyrdd a nodir ym Mholisi SP9 yn unol â’r amserlenni cyflenwi. | Gweithredu yn unol ag amserlenni cyflenwi. | Nid yw’r cynlluniau ffyrdd a nodi ym Mholisi SP9 wedi’u cyflenwi’n unol â’r amserlenni cyflenwi. |
Gweithredu’r cynlluniau beicio a nodir ym Mholisi TR4. | Cynnydd tuag at weithredu’r cynlluniau beicio a nodir ym Mholisi TR4. | Gweithredu yn unol â’r amserlenni cyflenwi erbyn 2021. | Heb weithredu’r cynlluniau beicio a nodir yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol sydd ar y gweill. Os nad oes cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect erbyn adolygu’r Cynllun am y tro cyntaf. |
Ffynonellau Data: Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynllun Trafnidiaeth Lleol sydd ar y gweill |
Mwynau | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS5 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP10, MPP1, MPP2, MPP3, MPP4, MPP5, MPP6 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Cynnal banc tir agregau 10 mlynedd o leiaf ar gyfer creigiau caled. | Banc tir agregau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.* | Cynnal banc tir 10 mlynedd o leiaf ar gyfer creigiau caled. | Banc tir creigiau caled o lai na 10 mlynedd. |
Cynnal banc tir agregau 7 mlynedd o leiaf ar gyfer tywod a graean. | Banc tir agregau cyfunol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin gyda’r awdurdodau cyfagos sef Cyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.* | Cynnal banc tir 7 mlynedd o leiaf ar gyfer tywod a graean. | Banc tir tywod a graean o lai na 7 mlynedd. |
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio yn y clustogfeydd mwynau (ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym Mholisi Cynllunio Mwynau Cymru). | Nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau parhaol sy’n sterileiddio a roddir mewn clustogfa fwynau. | Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP2. | 5 datblygiad parhaol sy’n sterileiddio wedi’u caniatáu mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP2 dros 3 blynedd yn olynol. |
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn ardal diogelu mwynau (ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym Mholisi MPP3). | Nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau parhaol sy’n sterileiddio a roddir mewn ardal diogelu mwynau. | Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP3. | 5 datblygiad parhaol sy’n sterileiddio wedi’u caniatáu mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP3 dros 3 blynedd yn olynol. |
Ystyried gorchmynion gwahardd ar safleoedd mwynau segur nad ydynt yn debygol o gael eu gweithio yn y dyfodol. | Nifer y gorchmynion gwahardd a gyhoeddir ar safleoedd segur. | Sicrhau y cyhoeddir gorchmynion gwahardd cyn pen 12 mis i’r safleoedd segur y bernir ei bod yn annhebygol y cânt eu gweithio eto yn y dyfodol (fel rhan o’r adolygiad blynyddol). | Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn methu â chyhoeddi gorchmynion gwahardd i safleoedd y bernir ei bod yn annhebygol y cânt eu gweithio eto yn y dyfodol. |
Ffynonellau Data: Dosraniad Rhanbarthol adnoddau tywod a graean: Timau Mwynau Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, caniatadau cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin. |
Ynni Adnewyddadwy | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS1, AS4, AS5 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP11, RE1, RE2, RE3 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Cynhyrchu mwy o ynni yn y Sir o ffynonellau adnewyddadwy. | Y capasiti a ganiateir o ran prosiectau trydan a gwres adnewyddadwy yn y sir (fesul MW). | Cynnydd blynyddol yn y capasiti a ganiateir o ran prosiectau trydan a gwres adnewyddadwy dros gyfnod y Cynllun. | Monitro at ddibenion gwybodaeth. |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Ceisiadau Cynllunio. |
Rheoli Gwastraff | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS5 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP12, WPP1 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Canllawiau Cynllunio Atodol |
Priodweddau Amgylcheddol – Yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS4 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP13, SP14, EQ1, EQ3, EQ4, EQ6, EQ7 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Sicrhau o leiaf 100ha o gynefin addas i Fritheg y Gors yn ardal prosiect Caeau Mynydd Mawr yn ystod cyfnod y Cynllun. | Hectarau o gynefin addas a reolir. | Cynnydd parhaus o ran darparu cynefin addas a reolir. | Dim cynnydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. |
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n effeithio ar gyfanrwydd safleoedd Natura 2000. | Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir sy’n cael effaith andwyol ar gyfanrwydd safle Natura 2000. | Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC. | 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC. |
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n effeithio ar gyfanrwydd safle cadwraeth natur dynodedig. | Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir a allai gael effaith andwyol ar nodweddion safle cadwraeth natur gwarchodedig. | Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. | 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. |
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n cael effaith andwyol ar statws cadwraethol ffafriol rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, neu’n achosi niwed sylweddol i rywogaethau a warchodir gan statudau eraill. | Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir sy’n cael effaith andwyol ar statws cadwraethol ffafriol rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, neu’n achosi niwed sylweddol i rywogaethau a warchodir gan statudau eraill. | Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. | 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. |
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n cael effaith andwyol ar Ardal Tirwedd Arbennig. | Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir a allai gael effaith andwyol ar Ardal Tirwedd Arbennig. | Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu swyddog tirwedd yr awdurdod. | 5 caniatâd cynllunio wedi’u rhoi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu swyddog tirwedd yr awdurdod dros gyfnod o 3 blynedd yn olynol. |
Nid yw’r cynigion datblygu’n cael effaith andwyol ar adeiladau ac ardaloedd o ddiddordeb adeiledig neu hanesyddol a’u lleoliad. | Achlysuron pan fyddai datblygu a ganiateir yn cael effaith andwyol ar Adeilad Rhestredig; Ardal Gadwraeth; Safle/Ardal o Arwyddocâd Archeolegol; neu Dirwedd, Parc a Gardd Hanesyddol neu eu lleoliad. | Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo lle ceir gwrthwynebiad heb ei ddatrys gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor, Cadw neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. | 5 caniatâd cynllunio wedi’u rhoi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol lle ceir gwrthwynebiad heb ei ddatrys gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor, Cadw neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed dros gyfnod o 3 blynedd yn olynol. |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dirweddau a Chanllaw Dylunio Ardaloedd Tirwedd Arbennig. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Archeoleg. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fioamrywiaeth (gan gynnwys Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur) | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 12 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun (i’w fonitro’n rheolaidd wrth aros dynodiadau parhaus). | |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed, Tirweddu a Datblygu. | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed, Tirweddu a Datblygu. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Ymatebion i Ymgynghoriadau ar Geisiadau Cynllunio, Swyddog Prosiect Cadwraeth |
Cyfleusterau Hamdden a Chymunedol | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS8, AS9 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP16, RT8, REC1 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Darparu cyfleusterau cymunedol newydd a chadw a gwella’r cyfleusterau cymunedol presennol. | Nifer y ceisiadau a gymeradwywyd ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol newydd. Nifer y ceisiadau a gymeradwywyd a fyddai’n arwain at golli cyfleuster cymunedol. |
Dim ceisiadau wedi’u cymeradwyo yn groes i Bolisïau SP16 a RT8. | 1 cais wedi’i gymeradwyo yn groes i Bolisïau SP16 a RT8. |
Gwrthsefyll colli mannau agored yn unol â darpariaethau Polisi REC1. | Maint y mannau agored a gollwyd i ddatblygiadau (ha).* | Ni ddylid colli unrhyw fan agored i ddatblygiad ac eithrio lle bo’n unol â Pholisi REC1. | Collwyd man agored i ddatblygiad yn groes i ddarpariaethau Polisi REC1 sy’n arwain at golled net yn y mannau agored. |
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ofynion Mannau Agored ar gyfer Datblygiadau Newydd | Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol. | Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. | |
Ffynonellau Data: Ceisiadau a Chaniatadau Cynllunio |
Yr Iaith Gymraeg | |||
---|---|---|---|
Amcanion Strategol Perthnasol: AS7 | |||
Prif Bolisïau’r CDLl: SP18 | |||
Targed Polisi | Dangosyddion | Targed Monitro Blynyddol/ Interim | Sbardunwr Asesu |
Datblygiadau preswyl fesul cam mewn ardaloedd lle mae 60% neu fwy o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. | Caniatadau cynllunio yn cael eu rhoi ar gyfer datblygiadau preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymunedau Cynaliadwy a chaniatadau cynllunio yn cael eu rhoi ar gyfer datblygiadau preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol. | Yr holl ganiatadau cynllunio a roddir ar gyfer datblygiadau preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymunedau Cynaliadwy a’r caniatadau cynllunio a roddir ar gyfer datblygiadau preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol i gynnwys gofyniad i ddatblygu fesul cam, yn unol â’r polisi ar yr Iaith Gymraeg a’r canllawiau a geir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr iaith Gymraeg. | Un caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer datblygiad preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymuned Gynaliadwy neu un caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer datblygiad preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardal Dwf, Canolfan Gwasanaethau neu Ganolfan Gwasanaethau Lleol heb gynnwys gofyniad i ddatblygu fesul cam, yn unol â pholisi’r CDLl ar yr Iaith Gymraeg a’r canllawiau a geir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr iaith Gymraeg. |
Ffynonellau Data: Ceisiadau a chaniatadau cynllunio. |
Tabl 11 – Fframwaith Monitro