2.1.1 Wrth baratoi’r CDLl rhoddwyd sylw i ganllawiau cenedlaethol a chynlluniau, polisïau a rhaglenni eraill. Mae dogfennau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol wedi cael eu hadolygu a’u hystyried fel rhan o’r gwaith o baratoi’r Cynllun, a chânt eu rhestru ym Mhennod 2 o Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, sydd ar gael ar wefan y Cyngor. Mae’r adran hon yn nodi’r cynlluniau, polisïau a rhaglenni allweddol ac yn rhoi crynodeb o’u prif bwyntiau.
2.2.1 Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol roi sylw i gynnwys a darpariaethau canllawiau cenedlaethol ar bolisi cynllunio ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 – Gorffennaf 2014 a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru Rhagfyr 2000. Dylai Awdurdodau Lleol ddefnyddio eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau ac wrth baratoi eu cynlluniau a’u strategaethau. Mae Polisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru, wrth nodi’r polisïau cenedlaethol ar gynllunio, yn cael eu hategu mewn nifer o feysydd polisi gan Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTAN), Cylchlythyrau, llythyrau egluro polisi a Datganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog (MIPPS).
2.2.2 Ceir canllawiau ar baratoi’r CDLl hefyd yn y ddogfen Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru: Polisi ar Baratoi CDLl (LlCC: Rhagfyr 2005), Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol (LlCC: Mehefin 2006) a’r Canllaw ar Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol (Arolygiaeth Gynllunio Cymru).
Cynllun Gofodol Cymru – Pobl, Lleoedd, Dyfodol (Diweddariad 2008)
2.2.3 Mae Cynllun Gofodol Cymru’n rhoi cyd-destun polisi trosfwaol ar gyfer cynllunio a datblygu gofodol yng Nghymru trwy nodi blaenoriaethau trawsbynciol cenedlaethol. Cafodd ei gyhoeddi’n gyntaf yn 2004 a’i ddiweddaru yn 2008, a’i nod yw sicrhau bod cynigion ledled Cymru’n integredig ac yn gynaliadwy, a bod gweithredoedd unigol yn cefnogi ei gilydd ac yn cydymffurfio â’r weledigaeth a rennir ar gyfer yr ardal. Mae Cynllun Gofodol Cymru’n ystyriaeth berthnasol wrth baratoi’r CDLl.
2.2.4 Mae Sir Gaerfyrddin mewn tair ardal a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru:
Sir Benfro – Yr Hafan
2.2.5 Mae’r blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer Sir Benfro – Yr Hafan fel a ganlyn:
2.2.6 Mae’r fframwaith aneddiadau a’r strategaeth ofodol a nodir ar gyfer yr ardal fel a ganlyn:
Canolbwynt Strategol a Phrif Anheddiad Allweddol – Caerfyrddin: Yn cyflawni swyddogaeth ranbarthol bwysig ac wedi’i nodi fel canolfan bwysig ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae’r dref hefyd wedi’i nodi fel Anheddiad Trawsffiniol ac Ardal Adfywio allweddol ac yn ganolfan ar gyfer twristiaeth.
Aneddiadau Allweddol – Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr: Yn cyflawni swyddogaeth canolfan gwasanaethau lleol, cyflogaeth a thwristiaeth.
Canolfan Leol – Castell Newydd Emlyn a Phentywyn/Lacharn: Canolfannau lleol yn bennaf, y mae rhai ohonynt yn cyfrannu fel canolfannau twristiaeth sylweddol. Nodir bod statws trawsffiniol gan Gastell Newydd Emlyn.
Ffigwr 1: Sir Benfro – Yr Hafan – Strategaeth Ofodol a Fframwaith Aneddiadau
Bae Abertawe – Y Glannau a’r Cymoedd Gorllewinol
2.2.7 Mae’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer rhanbarth Bae Abertawe – Y Glannau a’r Cymoedd Gorllewinol fel a ganlyn:
2.2.8 Mae’r fframwaith aneddiadau a’r strategaeth ofodol a nodir ar gyfer yr ardal fel a ganlyn:
Prif Aneddiadau Allweddol – Rhydaman/Cross Hands, Caerfyrddin a Llanelli: Nodir yr aneddiadau hyn fel canolbwyntiau, ac mae ganddynt ran hanfodol i’w chwarae yn llwyddiant ardal y cynllun gofodol. Nodir Caerfyrddin hefyd fel Anheddiad Trawsffiniol. Mae’r rhain yn ategu Dinas Abertawe, a nodir fel lle o bwysigrwydd cenedlaethol.
Aneddiadau Allweddol – Porth Tywyn/Pen-bre, Cydweli/Trimsaran, Llandeilo a Dyffryn Aman Uchaf: Nodir y rhain fel cymunedau ategol.
Ffigwr 2: Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol – Strategaeth Ofodol a Fframwaith Aneddiadau
Canol Cymru
2.2.9 Mae’r blaenoriaethau cytunedig ar gyfer yr ardal yn cynnwys y canlynol:
2.2.10 Mae’r fframwaith aneddiadau a’r strategaeth ofodol a nodir ar gyfer yr ardal fel a ganlyn:
Prif Anheddiad Allweddol - Caerfyrddin
 rôl strategol mewn tair ardal cynllun gofodol, safle a adlewyrchir yn ei statws fel anheddiad trawsffiniol.
Aneddiadau Allweddol – prif glystyrau aneddiadau Castell Newydd Emlyn a Llanybydder (Dyffryn Teifi) a Llandeilo, Llangadog a Llanymddyfri (Dyffryn Tywi): nodir Llandeilo a Chastell Newydd Emlyn fel aneddiadau trawsffiniol.
Ffigwr 3: Canol Cymru – Strategaeth Ofodol a Fframwaith Aneddiadau
2.2.11 Mae’r Fframweithiau Adfywio Cynaliadwy ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru wedi cael eu cynhyrchu i lywio’r gwaith o gyflawni gweithgarwch i gynorthwyo â rhaglen Gydgyfeirio 2007-13 yr UE a ffrydiau grantiau ac ariannu eraill.
2.2.12 Mae’r fframweithiau hyn yn datblygu ac yn manylu ar gynnwys Cynllun Gofodol Cymru a lle bo’n briodol, gynlluniau a strategaethau eraill. Wrth wneud hynny maent yn ystyried fframwaith aneddiadau Cynllun Gofodol Cymru wrth bennu ardaloedd ymyrraeth daearyddol.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
2.3.1 Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe’n cynnwys ardaloedd Awdurdodau Lleol Sir Penfro, Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’n dwyn ynghyd fyd busnes, llywodraeth leol ac amrywiaeth o bartneriaid eraill, gan weithio tuag at greu ffyniant economaidd i’r bobl sy’n byw a gweithio yn y Ddinas-ranbarth.
2.3.2 Mae Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013 – 2030 yn nodi’r fframwaith strategol ar gyfer y rhanbarth, gyda’r nod o gefnogi datblygiad yr ardal dros y degawdau i ddod. Mae’r CDLl, wrth gydnabod rôl Sir Gaerfyrddin, yn darparu trwy ei bolisïau a’i gynigion ar gyfer datblygu cyflogaeth, gyda’r economi’n elfen bwysig yn strategaeth y Cynllun. Bydd rôl ddatblygol y Ddinas-ranbarth yn ystyriaeth wrth sicrhau’r cydnawsedd parhaus mewn cyd-destun strategol.
Cynnydd mewn Partneriaeth - Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru - Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru SWWITCH
2.3.3 Rhoddodd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y cyd-destun strategol ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth yn y dyfodol a cheisiodd nodi’r amcanion hirdymor ar gyfer gwella mynediad a thrafnidiaeth ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae’r ddogfen hon a datblygiad Dinas-ranbarth Abertawe, sy’n cyflawni’r rôl trafnidiaeth ranbarthol, a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol arfaethedig, yn gyfranwyr pwysig wrth gyflawni’r amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer y CDLl.
Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru – Datganiad Technegol Rhanbarthol
2.3.4 Mae MTAN1: Agregau yn gosod gofyniad ar Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru i baratoi Datganiad Technegol Rhanbarthol, yn nodi’r strategaeth ar gyfer bodloni’r anghenion am agregau yn rhanbarth De Cymru ac sy’n cael ei adolygu bob pum mlynedd. Cafodd y Datganiad Technegol Rhanbarthol gwreiddiol ar gyfer De Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2008, a fersiwn ddiwygiedig yn 2014, eu cynhyrchu gan y Gweithgor, gyda chymorth yr Awdurdodau Cynllunio Mwynau, y diwydiant chwarela, a gwahanol gyrff / asiantaethau megis Cyfoeth Naturiol Cymru.
2.3.5 Lle bo angen, bydd disgwyl wedyn i bob Awdurdod Cynllunio Mwynau cyfansoddol gynnwys dyraniadau ar gyfer darparu agregau yn y dyfodol yn eu hardal, fel rhan o broses y CDLl.
‘Open All Year’ – Strategaeth Twristiaeth ar gyfer De-orllewin Cymru 2004 – 2008
2.3.6 Mae yna bedair strategaeth twristiaeth ranbarthol yng Nghymru, wedi’u paratoi o fewn fframwaith Cynllun Gofodol Cymru. Mae Sir Gaerfyrddin yn y rhanbarth sy’n cael ei gynnwys gan y Strategaeth Twristiaeth ar gyfer De-orllewin Cymru. Cafodd y strategaeth, ‘Open All Year’ ei llunio gan Bartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru, y mae Sir Gaerfyrddin yn bartner ynddi.
2.3.7 Mae adroddiad blynyddol Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru 2009/2010 yn adolygu’r canlyniadau ac yn nodi’r ymagwedd a’r amcanion i’r bartneriaeth yn ystod y flwyddyn i ddod (2010/2011).
2.3.8 Mae pwysigrwydd strategol y diwydiant twristiaeth i economi’r ardal yn cael ei gydnabod yn eang, fel y mae priod rôl y Cyngor yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae rôl y CDLl wrth gynorthwyo â’r strategaeth yn ystyriaeth bolisi bwysig.
Strategaeth Gymunedol Sir Gaerfyrddin – Meddwl Ynghyd, Cynllunio Ynghyd, Gweithredu Ynghyd 2004-2020
2.4.1 Mae’r Strategaeth Gymunedol yn nodi gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin a ddatblygwyd o ganlyniad i weithio cydweithredol trwy Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin. Mae’n un y gall y cyngor, y sectorau cyhoeddus a phreifat, y sectorau gwirfoddol a chymunedol a Llywodraeth Cymru gynorthwyo i’w chyflawni trwy weithio, cynllunio a gweithredu gyda’i gilydd. Dywed y weledigaeth:
2.4.2 Mae’r datganiad hwn o weledigaeth yn cynrychioli’r strategaeth hirdymor gyffredinol ar gyfer yr ardal sydd wedi’i sefydlu ar y blociau adeiladu canlynol:
2.4.3 Mae’r strategaeth yn nodi pum prif thema neu golofn y bydd dyfodol cymunedau Sir Gaerfyrddin yn cael ei adeiladu arnynt:
2.4.4 Roedd ymgynghoriadau cyn-adneuo ac yn fwyaf nodedig y Strategaeth a Ffefrir yn adlewyrchu’r Strategaeth Gymunedol wrth lunio Gweledigaeth sy’n gysylltiedig â defnydd tir ac sy’n berthnasol yn ofodol, ac sy’n cysylltu â’r materion allweddol a nodwyd yn ymwneud â chynllunio defnydd tir, ac ag amcanion strategol y CDLl. Dylid cyfeirio at Bennod 4: Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun hyn, yn ogystal â Phapurau Pwnc y CDLl.
Strategaeth Gymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin – 2011-2016
2.4.5 Mae adolygiad o’r Strategaeth Gymunedol wedi cael ei gyflawni fel rhan o ddull integredig y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Mae’n cynnwys y Strategaeth Gymunedol a chynlluniau a strategaethau allweddol eraill gan gynnwys y Cynllun Plant a Phobl Ifanc a’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae cynnydd y broses adolygu hon wedi cael ei fonitro’n barhaus, gan ddarparu mewnbwn CDLl yn y gweithdai i randdeiliaid. Mae Gweledigaeth y CDLl yn dal i fod wedi’i halinio’n agos â gweledigaeth y Strategaeth Gymunedol Integredig, a gweledigaeth y CDLl sy’n darparu’r dimensiwn gofodol. Y weledigaeth a geir yn y Strategaeth Gymunedol Integredig yw:
2.4.6 Mae’r pum thema / colofn strategol a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth Gymunedol wreiddiol (ac a ddefnyddir yn y CDLl) yn dal i fod yn berthnasol i’r Strategaeth Gymunedol Integredig. Yn ategu’r 5 colofn mae canlyniadau strategol ‘newydd’ sy’n cyfleu ffactorau sbarduno a dyheadau ar gyfer Sir Gaerfyrddin, sef:
2.4.7 Trwy gymharu’r canlyniadau a nodir uchod â Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y CDLl (gweler pennod 4), gellir dangos bod y CDLl a’r Strategaeth Gymunedol Integredig yn dal i fod wedi’u halinio’n agos. Yn wir, mae’r Strategaeth Gymunedol Integredig yn cyfeirio’n benodol i’r CDLl fel un o’r prif ffyrdd o gyflawni rhai o’r dyheadau uchod. Felly bernir y bydd y Strategaeth Gymunedol Integredig yn dangos hyd yn oed mwy o synergedd â’r CDLl nag oedd y Strategaeth wreiddiol.
2.4.8 Rhoddir mwy o bwys ar Gynaliadwyedd a materion yn ymwneud â Datblygu Cynaliadwy yn y Strategaeth Gymunedol Integredig. Gall y CDLl helpu i fynd i’r afael â’r rhain ac mae materion blaenllaw’r CDLl, fel y’u nodir ym Mhennod 3, wedi’u halinio’n agos â’r gwaith o gyflawni rhai o’r dyheadau a geir yn y Strategaeth Gymunedol Integredig. Ceir cyfeiriadau addas at y CDLl yn y Strategaeth Gymunedol Integredig, gan adlewyrchu pwysigrwydd y CDLl yn y gwaith o gyflawni’r agweddau sy’n ymwneud â defnydd tir.
2.4.9 Y canlyniadau penodol yn y Strategaeth Gymunedol Integredig y bernir eu bod yn berthnasol iawn i’r CDLl yw:
2.4.10 Mae’r berthynas waith rhwng timau’r CDLl a thimau’r Strategaeth Gymunedol Integredig yn gyson â rolau cyd-ddibynnol y ddwy broses, ac yn cydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddwyd yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol. Bydd deialog parhaus yn dal i sicrhau y gall y CDLl ddarparu’r ffordd i wireddu dyheadau’r Strategaeth Gymunedol Integredig.
2.4.11 Bu gwerthfawrogiad parhaus o fframweithiau monitro’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Strategaeth Gymunedol Integredig. I gloi, mae’r ddwy broses yn dal i fod wedi’u halinio’n agos, ac felly nid oes angen unrhyw newid i’r Cynllun Datblygu Lleol o ganlyniad i’r adolygiad o’r Strategaeth Gymunedol ac o lunio’r Strategaeth Gymunedol Integredig. Rhoddir tystiolaeth o hyn ar dudalen 5 o’r Strategaeth, lle dywedir bod cysylltiad clir rhwng y Cynllun Datblygu Lleol a’r Strategaeth Gymunedol Integredig, a hwythau wedi eu datblygu mewn cydweithrediad.
Strategaeth Tai Sir Gaerfyrddin: Pobl, cartrefi a chymunedau: Cyflawni’r Dyfodol Gyda’n Gilydd 2007-2010
2.4.12 Mae’r strategaeth hon yn cael ei llywio gan weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd ac yn dylanwadu arni mae amrywiaeth fawr o randdeiliaid o’r tu allan a’r tu mewn i’r Awdurdod Lleol (gan gynnwys cynllunio). Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn dylanwadu’n drwm ar y Strategaeth ac un o’r themâu allweddol yw’r angen i wella hygyrchedd i amrywiaeth a chymysgedd o fathau o dai yn ogystal â hybu rheolaeth dda ar stoc tai’r Cyngor. Yn ogystal â hybu hygyrchedd, mae’r Strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd gwella ansawdd a thrafodir trefn cynnal a chadw (gan gynnwys hybu Ardaloedd Adnewyddu).
Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin (Mabwysiadwyd 2006)
2.4.13 Hyd nes y mabwysiadwyd y CDLl, y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) a fabwysiadwyd ym mis Gorffennaf 2006 oedd y cynllun defnydd tir ar gyfer y Sir (ac eithrio’r rhan honno sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
2.4.14 Wrth ddatblygu’r CDU, seiliodd y Cyngor ei nodau a’i amcanion ar egwyddorion cynaliadwyedd. Nod hyn oedd ceisio lleihau dibyniaeth ar geir, adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a hyrwyddo cymunedau cymdeithasol-gynhwysol a chynaliadwy. Wrth geisio cyflawni hyn, nododd y CDU strategaeth aneddiadau hierarchaidd yn ei Fframwaith Aneddiadau Strategol Cynaliadwy ar gyfer ardal y Cynllun. Mae’r ymagwedd hon yn canolbwyntio ar fodel cynaliadwy lle mae aneddiadau’n cael eu categoreiddio yn ôl eu pwysigrwydd o ran darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy’n hygyrch i’w trigolion eu hunain a chymunedau cyfagos.
2.4.15 Barnwyd bod y Cynllun Datblygu Unedol wedi darparu sylfaen addas i’r Cynllun Datblygu Lleol ac o’r herwydd lluniwyd papur cefndir yn rhan o sail dystiolaeth y Cynllun a arfarnodd berthnasedd cyfoes y CDU. Barnwyd hefyd ei bod yn berthnasol i’r CDU lywio’r gwaith o ddatblygu dewisiadau gofodol ar gyfer y CDLl o gofio ei fod yn gydnaws yn fras â Chynllun Gofodol Cymru a’r ffaith ei fod wedi’i fabwysiadu’n gymharol ddiweddar.
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ac Adolygiad Sir Gaerfyrddin
2.4.16 Bwriedir i Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin ymdrin â’r holl sir a dyfroedd ei glannau, ond nid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y mae cynllun ar wahân wedi’i baratoi ar ei gyfer. Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, nod bras Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin yw gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin trwy gyfrwng partneriaethau lleol, gan gymryd blaenoriaethau cenedlaethol a blaenoriaethau lleol i ystyriaeth. Dyma nodau bras Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin:
2.4.17 Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddiwygio a bydd y cynllun newydd (2010–2014) yn darparu ffocws gwaith Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin drwy gydol oes y cynllun.
2.5.1 Mae nifer fawr o gynlluniau, polisïau a strategaethau eraill sy’n ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol, neu sydd wedi llywio neu ddylanwadu ar agweddau ohono , ac fe’u rhestrir yn Atodiad 8 i’r Cynllun hwn. Mae’r dogfennau sy’n sail dystiolaeth y Cynllun hefyd wedi cyfeirio at nifer sylweddol o gynlluniau, polisïau a strategaethau cysylltiedig, y dylid eu hystyried yn ogystal â’r rhai a nodir yn Atodiad 8.
2.5.2 Mae nifer o’r dogfennau a strategaethau hyn wedi cael eu hadolygu, neu fe fyddant yn cael eu hadolygu. Mae’n anochel felly y bydd eu perthynas â’r CDLl yn un ailadroddol. Mae’r CDLl yn galw am feithrin perthynas waith agos gyda’r partneriaid hynny sy’n gyfrifol am baratoi’r fath gynlluniau a strategaethau. Bydd parhau i gydweithio’n sicrhau y bydd unrhyw adolygiadau neu ddogfennau newydd yn llywio’r gwaith o fonitro’r CDLl a phrosesau llunio cynlluniau yn y dyfodol. Nid yw’r rhestr uchod yn holl gynhwysfawr a bydd dogfennau a strategaethau perthnasol eraill yn cael eu defnyddio fel y bo’n briodol. Dylid cyfeirio at adran 2 o Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol (Medi 2008) sy’n nodi adolygiad o gynlluniau a pholisïau perthnasol ar lefel Ryngwladol/Ewropeaidd, Genedlaethol, Ranbarthol a Lleol.
2.6.1 Roedd gwaith cysylltu blaenorol a pharhaus gyda’r awdurdodau cyfagos yn un o nodweddion y broses o baratoi’r CDLl. Mae’r Cyngor wedi cysylltu’n rheolaidd â’r awdurdodau cyfagos, yn unigol ac ar y cyd, ar lefel ranbarthol (trwy Grwp Cynllunio Rhanbarthol De Orllewin Cymru) i sicrhau alinio rhwng eu Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae rhai ffactorau’n golygu nad oes modd cael cydymffurfiaeth lwyr ond roedd trafodaethau adeiladol a rhannu gwybodaeth a phrofiad yn lleihau’r perygl y byddai polisïau’n gwrthdaro ac yn sicrhau lefel briodol o integreiddio.
2.6.2 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwneud cynnydd â’i Gynllun Datblygu Lleol er mwyn ei gyflwyno i gael ei archwilio. Mae deialog parhaus wedi sicrhau dealltwriaeth o ymagweddau’r naill gyngor a’r llall, a chyfeiriad datblygol y fframweithiau polisi. Bydd cynnydd CDLl Castell-nedd Port Talbot yn cael ei fonitro a’i ystyried fel sy’n briodol.
2.6.3 Mae Dinas a Sir Abertawe yn gwneud cynnydd tuag at CDLl Adneuo, wedi iddo gyhoeddi ei Strategaeth a Ffefrir ym mis Awst 2013. O gofio’r gwahaniaethau rhwng amserlenni gwaith paratoi’r Cynlluniau, nid yw’n bosibl asesu’n llawn pa mor gydnaws yw’r ymagweddau strategol. Fodd bynnag, mae cysylltu parhaus yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o ymagweddau’r naill awdurdod a’r llall. Mae deialog penodol wedi mynd rhagddo ac wedi arwain at gydweithredu trawsffiniol ar elfen sylfaenol o’r gwaith o ddarparu dwy ddogfen h.y. (ACA) Cilfach Tywyn. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chydweithrediad wrth fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar yr ACA yn gamau pwysig yn y gwaith o ddatblygu ateb hirdymor i broblemau gydag ansawdd dwr yn y Gilfach. Bydd cynnydd CDLl Abertawe yn cael ei fonitro a’i ystyried fel sy’n briodol.
2.6.4 Dechreuodd Cyngor Sir Powys baratoi ei Gynllun Datblygu Lleol wedi ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir ym Mawrth / Ebrill 2013. O gofio’r gwahaniaethau rhwng amserlenni gwaith paratoi’r cynlluniau, nid yw’n bosibl asesu pa mor gydnaws yw’r ymagweddau strategol. Fodd bynnag, bydd trafodaethau’n parhau i edrych ar gydnawsedd strategol. Bydd cynnydd CDLl Powys yn cael ei fonitro a’i ystyried fel sy’n briodol.
2.6.5 Cafodd CDLl Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei fabwysiadu ar 29ain Medi 2010. Mae’r CDLl hwn yn gydnaws â’r cynllun ar gyfer y Parc Cenedlaethol, gan adlewyrchu strwythur aneddiadau hierarchaidd a chysondeb yn yr ymagwedd fras o ran polisi cynllunio. Mae’r cysylltiadau twristiaeth ar draws y llain arfordirol yn cael eu cydnabod ac yn adlewyrchu cynnwys Cynllun Gofodol Cymru. Mae hefyd cysondeb ymagwedd o ran cynaliadwyedd a lleoedd cynaliadwy. Mae’r CDLl yn cydnabod y berthynas rhwng yr awdurdodau a’r cyfraniad y gall Sir Gaerfyrddin ei wneud at werth a phriodweddau’r Parc Cenedlaethol.
2.6.6 Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro ei Gynllun Datblygu Lleol ar 28ain Chwefror 2013. Mae cysondeb ac aliniad bras yn nhermau’r ymagwedd o safbwynt polisi ac o safbwynt strategol. Mae’r weledigaeth a’r fframwaith gofodol ar gyfer hierarchaeth aneddiadau mewn termau cyffredinol yn gydnaws. Mae hefyd aliniad bras o ran yr ymagwedd at faint datblygiad a thwf.
2.6.7 Mae rôl Caerfyrddin fel canolfan ranbarthol yn cael ei chydnabod gan y naill gyngor a’r llall, gyda’r cyfatebolrwydd aneddiadau a ddatblygwyd ac a ddeallwyd trwy Gynllun Gofodol Cymru: ardal ofodol Sir Benfro – Yr Hafan yn dylanwadu ar y ffordd y cafodd y ddau Gynllun Datblygu Lleol eu paratoi.
2.6.8 Mabwysiadodd Cyngor Sir Ceredigion ei Gynllun Datblygu Lleol ar 25ain Ebrill 2013. Er bod y strategaethau aneddiadau ychydig yn wahanol, mae cydnawsedd cyffredinol rhwng Gweledigaethau’r ddau Gyngor ac o ran yr ymrwymiad i barchu a chynnal amrywiaeth ac ansawdd ardaloedd y ddau gynllun, i leihau’r angen i deithio ac i gynaliadwyedd a chreu lleoedd cynaliadwy. Mae parhad hefyd mewn perthynas â deall a pharchu ansawdd y dirwedd, gyda’r ddau gynllun yn cynnwys Ardaloedd Tirwedd Arbennig.
2.6.9 Mae goblygiadau trawsffiniol i aneddiadau ar ffiniau ac mae’r ddau Gynllun yn cydnabod y berthynas hon. Nodir bod gan ddwy o Ganolfannau Gwasanaethau Trefol Ceredigion (sef Llanbedr Pont Steffan a Llandysul) oblygiadau trawsffiniol gyda Sir Gaerfyrddin, a saif Castell Newydd Emlyn a Llanybydder (a ddynodir yn Ganolfan Gwasanaethau ac yn Ganolfan Gwasanaethau Lleol, yn y drefn honno, yn y CDLl hwn) ar y ffin. Mae trafodaethau wedi sicrhau, a byddant yn parhau i sicrhau, fod y CDLl a’i strategaeth, a chynllun yr awdurdod cyfagos, yn gyson a heb oblygiadau annerbyniol lle bo’n briodol.
2.6.10 Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei Gynllun Datblygu Lleol ar 17eg Rhagfyr 2013. Nid oes unrhyw faterion trawsffiniol amlwg o ran aneddiadau. Er bod y Strategaeth yn cydnabod angen o ran tai yn rhan orllewinol y Parc a all fod â goblygiadau i aneddiadau yn y rhan honno o’r Sir, mae trafodaethau a chynnwys ei Gynllun Datblygu Lleol yn awgrymu effaith fach iawn yn nhermau dosrannu ar y gofyniad o ran aelwydydd i Sir Gaerfyrddin. Yn hyn o beth nid yw CDLl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoi unrhyw awgrym o’r nifer o unedau a ddyrannwyd. Yn hytrach, mewn perthynas â’r aneddiadau dynodedig (yn Sir Gaerfyrddin), mae’n caniatáu ar gyfer mewnlenwi yn unig. Bydd angen rhagor o gysylltu a monitro parhaus.
2.7.1 Roedd y berthynas agos ag adrannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyfagos yn elfen bwysig yn y gwaith o baratoi Cynllun Gofodol Cymru a chydnabuwyd bod cydweithredu parhaus yn bwysig i sicrhau y caiff ei ddarpariaethau eu gweithredu’n effeithiol. Mae’r cydweithredu sy’n ganlyniad i hyn yn cynnwys yr Astudiaeth o Gyfatebolrwydd Aneddiadau (mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro) a ddigwyddodd ar gyfer ardal Cynllun Gofodol Sir Benfro – Yr Hafan.
2.7.2 Bydd y Cyngor, trwy ei aelodaeth o Grwp Cynllunio Rhanbarthol De Orllewin Cymru, ynghyd â’r awdurdodau cyfagos uchod yn ogystal â rhai sy’n bresennol o Lywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau cyfagos. Mae’r fforwm hwn wedi hwyluso gwaith cysylltu a rhannu gwybodaeth effeithiol o ran materion trawsffiniol a chydweithio. Roedd ffurfio grwp braenaru wedi hynny’n fodd i aelodau o’r Grwp ddatblygu a rhannu eu profiadau a’u harbenigedd o ran Cynlluniau Datblygu Lleol er budd pawb.
2.7.3 Rhoddir manylion ac amserlenni trafodaethau trawsffiniol a rhwng awdurdodau yn Adroddiad Ymgynghori’r Cynllun Datblygu Lleol