1.1.1 Gosododd darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) 2005 ofyniad ar Gyngor Sir Caerfyrddin fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol i baratoi’r CDLl hwn ar gyfer ei ardal weinyddol. Mae’r CDLl hwn yn nodi polisïau’r Awdurdod a’i gynigion ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn y dyfodol. Mae’r CDLl hwn yn disodli’r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) sy’n bodoli eisoes ac fe’i defnyddir i lywio a rheoli datblygiadau, gan ddarparu’r sylfaen ar gyfer gwaith penderfynu cyson a rhesymegol. Wrth wneud hynny, mae’n cynnig rhywfaint o sicrwydd ynghylch pa fathau o ddatblygiadau fydd yn cael eu caniatáu, a pha fathau na fyddant yn cael eu caniatáu, mewn mannau penodol yn ystod cyfnod y Cynllun. Mae ardal y cynllun yn eithrio’r rhan o’r Sir sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle dylid cysylltu ag Awdurdod y Parc mewn perthynas â’r cynllun datblygu a chynigion ar gyfer datblygiadau yn yr ardal honno.
1.1.2 Mae gan y system gynllunio rôl sylfaenol yn y gwaith o sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Rhaid iddi helpu yn y broses o gydbwyso ac integreiddio amcanion sy’n gwrthdaro â’i gilydd er mwyn diwallu’r anghenion cyfredol o ran datblygu ac ar yr un pryd diogelu rhai’r dyfodol (Polisi Cynllunio Cymru: Pennod 4, Argraffiad 7). Felly nod y CDLl hwn yw darparu fframwaith sy’n cydnabod anghenion yr ardal boed yn anghenion cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd. Wrth wneud hynny ei nod yw cyfrannu at sicrhau datblygu cynaliadwy trwy nodi polisïau a chynigion sy’n adlewyrchu’r amcanion cynaliadwyedd hynny fel y’u datblygwyd trwy bolisi cenedlaethol a thrwy’r broses Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol. Wrth geisio cyflawni hyn, mae’n nodi fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir a hefyd ar gyfer gwarchod yr amgylchedd. Mae hefyd yn llywio a hwyluso penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn ogystal â chyflenwi gwasanaethau a seilwaith. Mae’n pennu lefel darpariaeth a lleoliad tai newydd, cyfleoedd cyflogaeth a defnyddiau eraill, ac yn gosod y fframwaith ar gyfer ystyried pob cynnig ar gyfer defnydd tir yn ystod cyfnod y cynllun.
1.1.3 Wrth ddatblygu a deall materion, dewisiadau ac amcanion sy’n dod i’r amlwg, rhoddwyd sylw dyledus i bolisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol. Rhoddwyd sylw hefyd i strategaethau perthnasol, dogfennau cefndir a sylfaen dystiolaeth gadarn wrth lunio’r Cynllun.
1.1.4 Mae’r Cynllun Datblygu Lleol hwn yn un o’r ddwy strategaeth allweddol y mae’n ofynnol yn statudol i’r Awdurdod eu paratoi; y Strategaeth Gymunedol Integredig yw’r llall.
1.2.1 Wrth lunio’r Cynllun hwn, mae’r Cyngor wedi bodloni’r holl ofynion rheoliadol a gweithdrefnol, gan gynnwys mynd â’r Cynllun trwy archwiliad annibynnol.
1.2.2 Mae’r CDLl hwn yn darparu cyfeiriad strategol trwy bolisïau a chynigion defnydd tir (gan gynnwys dyrannu tir ar gyfer ei ddatblygu).
1.2.3 Mae’r CDLl hwn yn cynnwys datganiad ysgrifenedig a map cynigion sy’n nodi ei bolisïau a’i gynigion ar sail ddaearyddol.
1.2.4 Mae strwythur a fformat y CDLl fel a ganlyn:
Pennod 1 - Cyflwyniad: Gwybodaeth gefndir gyffredinol am Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin gan gynnwys nodi rôl Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn y broses o lunio’r cynllun.
Pennod 2 – Y Cyd-destun Polisi: Yn nodi’r ffordd mae’r CDLl yn alinio â’r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac yn rhoi sylw iddo.
Pennod 3 – Materion a Ffactorau Sbarduno Allweddol: Yn disgrifio’r materion a nodwyd mewn perthynas â’r CDLl.
Pennod 4 – Gweledigaeth ac Amcanion Strategol: Yn cyflwyno Gweledigaeth y CDLl a’r Amcanion Strategol sy’n cyd-fynd â hi, gan gyfleu’r math o le y rhagwelir y dylai Sir Gaerfyrddin fod. Rôl yr Amcanion Strategol yw gosod y cyd-destun ar gyfer y gwaith o wireddu’r weledigaeth.
Pennod 5 – Strategaeth a Pholisïau Strategol: Yn nodi cyfeiriad strategol y CDLl, sydd ynghyd â’r fframwaith gofodol ac aneddiadau a’r polisïau strategol, yn darparu’r cyd-destun ar gyfer polisïau penodol, manwl.
Pennod 6 – Polisïau Penodol: Polisïau manwl sy’n ymdrin â meysydd polisi penodol ac yn darparu polisïau cyffredinol ar gyfer rheoli datblygiadau y caiff pob cynnig ar gyfer datblygiad yn y sir ei asesu yn unol â hwy. Mae’r polisïau hyn yn nodi dyraniadau defnydd tir at ddibenion preswyl, cyflogaeth ac eraill, ardaloedd a ddynodir i gael gwarchodaeth arbennig, a pholisïau (gan gynnwys polisïau meini prawf) sy’n llywio’r defnydd tir a datblygiadau yn ardal y Cynllun. Maent yn creu sylfaen gadarn ar gyfer ystyried ceisiadau ac apeliadau cynllunio mewn ffordd resymegol a chyson. Mae’r polisïau wedi’u halinio â’r polisïau strategol ac yn cynnwys cyfiawnhad rhesymedig.
Pennod 7 – Gweithredu a Monitro: Yn nodi ac yn cynnwys targedau allweddol a manylion am berfformiad y Cynllun a mesurau i’w fonitro.
Atodiadau: Gwybodaeth dechnegol a chefndir sy’n rhoi manylion i gefnogi cynnwys y Cynllun, neu i ddarparu gwybodaeth i gynorthwyo â’i ddehongli.
Map Cynigion ar Sail Ddaearyddol: Mae’r Map Cynigion ynghyd â mapiau mewnosod o aneddiadau neu ardaloedd datblygu penodol yn nodi polisïau a chynigion ar sail ddaearyddol.
1.3.1 Roedd y gwaith o baratoi’r CDLl yn cynnwys nifer o gamau allweddol. Dechreuodd gyda’r Cytundeb Cyflenwi y cytunodd Llywodraeth Cymru arno ym mis Awst 2007 (ac a ddiwygiwyd ym mis Hydref 2010 a mis Awst 2013) a daeth i ben gyda’r Archwiliad Cyhoeddus rhwng mis Chwefror a mis Mai 2014 a mabwysiadu’r Cynllun wedyn ar 10 Rhagfyr 2014.
1.3.2 Newidiodd a datblygodd y CDLl ar ôl iddo ddechrau yn 2007 hyd nes ei fabwysiadu yn 2014, gan fynd trwy’r Camau Allweddol a nodir isod.
Cam Allweddol 1 – Cytundeb Cyflenwi (Rh. CDLl Rhif. 5 -10)
Cam Allweddol 2 – Cyn-Adneuo – Paratoi a Chyfranogi (Rh. CDLl Rhif. 14)
Cam Allweddol 3 – Cyn-Adneuo – Ymgynghori â’r Cyhoedd (Rh. CDLl Rhif. 15, 16)
Cam Allweddol 4 – Cynllun Datblygu Lleol Adneuo (Rh. CDLl Rhif. 17 - 21)
Cam Allweddol 5 – Cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w archwilio (Rh. CDLl Rhif. 22)
Cam Allweddol 6 – Archwiliad Annibynnol (Rh. CDLl Rhif. 23)
Cam Allweddol 7 – Cael a Chyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd (Rh. CDLl Rhif. 24)
Cam Allweddol 8 – Mabwysiadu (Rh. CDLl Rhif. 25)
Cam Allweddol 9 – Monitro ac Adolygu (Rh. CDLl Rhif. 37)
1.3.3 Cafodd y CDLl ei baratoi gan roi sylw i ddogfennau a strategaethau gofodol a thematig eraill a gynhyrchwyd ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol, ynghyd â’r rheiny â phwyslais lleol. Cydnabu’r broses o baratoi’r Cynllun y pwys a roddwyd ar gydnawsedd a synergedd corfforaethol, ynghyd â’r angen i ystyried y berthynas rhwng y CDLl a’r Strategaeth Gymunedol Integredig. Mae’r CDLl hefyd yn rhan annatod o Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.
1.3.4 Mae’r Cyngor wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol berthnasol er mwyn darparu sail dystiolaeth ffeithiol i’r Cynllun (Cam Allweddol 2). Cafodd y dystiolaeth hon ei datblygu’n ddi-baid i lywio’r broses o lunio’r cynllun ac mae wedi cynnwys cyhoeddi ac ymgynghori ar amrywiaeth o ddogfennau gan gynnwys papurau trafod a phapurau pwnc yn ymwneud â materion polisi allweddol.
1.3.5 Cafodd y Strategaeth a Ffefrir (Cam Allweddol 3) ei chyhoeddi i ymgynghori arni ym mis Tachwedd 2009 gan gynnwys:
1.4.1 Roedd cyflawni Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol yn rhan annatod o’r gwaith o baratoi’r CDLl ac mae’n orfodol o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Roedd yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn ystyried effeithiau cymdeithasol ac economaidd y CDLl yn ogystal â’r agweddau amgylcheddol. Yn unol â Chyfarwyddeb Asesu Amgylcheddol Strategol yr Undeb Ewropeaidd (2001/42/EC) ac fel rhan o’r broses o baratoi’r CDLl, roedd yn ofynnol i’r Awdurdod gyflawni asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni sy’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd.
1.4.2 Roedd yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yn hwyluso archwiliad trwyadl o’r materion, heriau a chyfleoedd oedd yn ymwneud â chynaliadwyedd (gan gynnwys problemau amgylcheddol fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Asesu Amgylcheddol Strategol) y mae Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu. Wrth wneud hynny roedd yn llywio’r gwaith o baratoi’r CDLl ac yn cael ei blethu iddo. Roedd yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu’r Materion o Bwys a’r Amcanion yn ogystal â’r gwaith o nodi strategaeth ac, yn wir, yn ganolog i’r CDLl. Dylid nodi, yn ogystal â chamau ffurfiol ymgynghori, cyflawnwyd gwaith cysylltu ag asiantaethau perthnasol (yn enwedig y cyrff sy’n ymgynghoreion statudol a’r Awdurdodau cyfagos).
1.4.3 Mae canllawiau manwl ar gynnal Arfarniad integredig o Gynaliadwyedd (ODPM guide: Sustainability Appraisal of Regional Spatial Strategies and Local Development Documents (Tachwedd 2005)) yn diffinio pum prif gam wrth gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd a ddefnyddiwyd yn paratoad y CDLl:
Cam A – gosod y cyd-destun a’r amcanion, sefydlu’r llinell sylfaen a phennu’r cwmpas;
Cam B – datblygu a mireinio dewisiadau ac asesu effeithiau;
Cam C – paratoi adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd;
Cam D – ymgynghori ar ddewis a ffefrir y cynllun datblygu ac adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd;
Cam E – monitro effeithiau arwyddocaol gweithredu’r cynllun datblygu.
1.5.1 Yn unol â’r Gyfarwyddeb Ewropeaidd 92/43/EEC (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd) mae’n ofynnol i awdurdodau cymwys gyflawni Asesiad Priodol pan fo cynllun defnydd tir, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad ag effeithiau cynlluniau neu brosiectau eraill, yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar un neu ragor o safleoedd â dynodiad Ewropeaidd. Wrth baratoi’r CDLl, gwnaeth y Cyngor fel bo’r angen ymdrech i addasu’r Cynllun er mwyn sicrhau na fyddai effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd â dynodiad Ewropeaidd. Mae’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ymdrin â’r canlynol:
1.5.2 Cafodd yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ei baratoi ochr yn ochr â’r CDLl fel proses ailadroddol ac integredig. Chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o lunio’r CDLl a’i bolisïau a’i darpariaethau. Yn hyn o beth, mae’r CDLl yn cyflwyno polisïau a chynigion sy’n sicrhau bod gofynion y rheoliadau’n cael eu bodloni ac nad oes effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd â dynodiad Ewropeaidd. Dylid nodi, yn ychwanegol at y camau ymgynghori ffurfiol, y cyflawnwyd gwaith cysylltu ag awdurdodau perthnasol (yn enwedig y cyrff sy’n ymgynghoreion statudol a’r Awdurdodau cyfagos).
1.5.3 I gael rhagor o wybodaeth dylid troi at ddogfennau ategol y CDLl mewn perthynas â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Dylid cyfeirio at Bennod 7 ac ymrwymiad y Cynllun mewn perthynas â’r gwaith parhaus o’i weithredu a’i fonitro.
1.6.1 Wrth nodi’r Weledigaeth a’r Amcanion Strategol, ynghyd â pholisïau a chynigion strategol a phenodol, mae’r CDLl hwn yn darparu fframwaith cynllunio defnydd tir trosfwaol a chynhwysfawr i ardal y Cynllun. Wrth wneud hynny mae’n darparu ar gyfer datblygu tir ac ar gyfer gwarchod yr amgylchedd, ac ar yr un pryd yn hwyluso penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn ogystal â chyflenwi gwasanaethau a seilwaith. Gan gofio pa mor gynhwysfawr yw’r Cynllun a’i bolisïau, dylid darllen ei gynnwys fel cyfanwaith ac ni ddylid ystyried unrhyw agwedd arno ar ei phen ei hun.
1.6.2 Defnyddiwyd croesgyfeirio lle bo’n briodol a bydd yna achosion lle bydd cydberthyniad ar draws nifer o bolisïau.
1.6.3 Mae’r CDLl hwn yn ceisio osgoi ailadrodd polisïau cynllunio cenedlaethol a geir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru. Serch hynny, bydd polisïau cynllunio cenedlaethol ar y cyd gyda chynnwys y CDLl yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar unrhyw geisiadau cynllunio, ac o’r herwydd dylid rhoi sylw dyledus iddynt. Lle bo’n briodol, mae’r CDLl yn esbonio ble a sut mae’r fath bolisïau cenedlaethol yn berthnasol.